Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos pwysigrwydd cysylltedd band eang mewn cartrefi a busnesau ledled Cymru boed hynny ar gyfer dysgu gartref, cysylltu gydag anwyliaid neu weithio gartref.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r gwaith yr ydym wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf a’r ffordd y mae’r buddsoddiad hwn wedi trawsnewid y sefyllfa ddigidol yng Nghymru. Byddant hefyd yn gwybod bod rhagor o waith i’w wneud. Heddiw rwyf am roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau ar ddatblygiadau pellach.
Cafodd Arolwg o’r Farchnad Agored (OMR) ei gynnal yn ail hanner y llynedd. Roedd hwn yn brosiect mawr gyda’r diwydiant telathrebu, i weld pa safleoedd oedd yn dal i fod heb gysylltiad ag o leiaf band eang cyflym iawn neu lle nad oedd cynlluniau i’w cysylltu. Gwelwyd bod rhyw 79,000 o safleoedd (safleoedd ‘gwyn’ fel y’u gelwid) heb gysylltiad â band eang cyflym iawn ac nad oedd cynlluniau ar y gweill am y tair blynedd nesaf i’w cysylltu. Mae’r data wedi’u cyhoeddi bellach ar ein gwefan a bydd dadansoddiad o’r safleoedd ‘gwyn’ yn ôl awdurdod lleol wedi’i atodi i’r datganiad hwn.
Byddwn yn parhau i gefnogi’r rheini sydd dal i fod heb gysylltiad trwy amrywiaeth o fesurau. Budd Aelodau yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu ychwanegiad i’r Cynllun Talebau Band Eang Gigabit o dan arweiniad Llywodraeth Cymru i adlewyrchu’r costau uwch sy’n gysylltiedig â chysylltedd ffibr llawn yng Nghymru. Mae’r cynllun bellach wedi dod i ben ac wedi’i ddisodli gan y prosiect Cysylltedd Gigabit Gwledig. Rwy’n falch iawn i’ch hysbysu ein bod wedi cymryd camau pellach i gynnig adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau pecyn hael o fesurau ar gyfer Cymru nad oes gwell ar gael yn unrhyw le arall yn y DU. Byddwn yn cynnig £1,500 yn ychwanegol i eiddo preswyl a £3,500 ar gyfer busnesau yng Nghymru. Bydd hyn yn mynd â’r uchafswm sydd ar gael ar gyfer eiddo yng Nghymru i £3,000 a £7,000 yn y drefn honno. I helpu i sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar eiddo sydd ei angen fwyaf, dim ond eiddo ‘gwyn’ fydd yn gymwys. Bydd y cyllid ychwanegol ond yn cael ei ryddhau pan fyddwn yn mynd y tu hwnt i uchafsymiau cyllido y DU.
Fel yr amlinellir yng nghasgliadau OMR mae cartrefi a busnesau yng Nghymru nad yw’r farchnad yn darparu ar eu cyfer. Rydym yn defnyddio ein cyllid er mwyn cyflawni dulliau cysylltu newydd a blaengar o gysylltu cymunedau cyfan, trwy gydweithio â llywodraeth leol a mentrau cymdeithasol drwy ein Cronfa Band Eang Lleol gwerth £10 miliwn a ddisgrifiais ym mis Tachwedd y llynedd. Mae’r gwaith ar y Gronfa wedi’i hatal dros dro oherwydd bod adnoddau o fewn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi’u hailddosbarthu er mwyn mynd i’r afael â phandemig y coronafeirws. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r cynllun wedi ailddechrau.
Mae cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn parhau i ddatrys problemau ynghylch cysylltedd ac mae fy swyddogion wedi gweithio i symleiddio’r broses ymgeisio i’w gwneud yn gyflymach a haws.
Byddaf yn parhau i ddarparu y newyddion diweddaraf i’r Aelodau.
Crynodeb yn ôl awdurdod lleol.
Awdurdod Lleol |
Gwyn |
|
BLAENAU GWENT |
1,354 |
|
PEN-Y-BONT AR OGWR |
2,403 |
|
BWRDEISTREF SIROL CAERFFILI |
2,017 |
|
CAERDYDD |
2,769 |
|
SIR GAERFYRDDIN |
9,480 |
|
CEREDIGION |
5,246 |
|
GORLLEWIN CAER A CHAER * |
3 |
|
CONWY |
3,295 |
|
SIR DDINBYCH |
4,509 |
|
SIR Y FFLINT |
2,970 |
|
SWYDD GAERLOYW * |
1 |
|
GWYNEDD |
6,006 |
|
YNYS MÔN |
2,801 |
|
MERTHYR TUDFUL |
805 |
|
SIR FYNWY |
2,405 |
|
CASTELL-NEDD PORT TALBOT |
1,650 |
|
CASNEWYDD |
2,013 |
|
SIR BENFRO |
6,366 |
|
POWYS |
10,701 |
|
RHONDDA CYNON TAF |
3,544 |
|
SWYDD AMWYTHIG * |
5 |
|
ABERTAWE |
3,052 |
|
TORFAEN |
1,071 |
|
BRO MORGANNWG |
1,857 |
|
WRECSAM |
2,700 |
|
Cyfanswm |
79,023 |
* Mae’r lleoliadau hyn o fewn Cymru ond maent wedi’u categoreiddio fel rhai sy’n gysylltiedig ag Awdurdod Lleol yn Lloegr.