Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ystod canol mis Mawrth, wrth i effaith argyfwng y coronafeirws ddechrau gael ei theimlo ar hyd a lled Cymru, cafodd nifer o ymrwymiadau eu pennu gennym mewn perthynas â darparu gofal plant a ariennir. Mae’r rheini’n cynnwys:
- Ymrwymiad i barhau i dalu am oriau o ofal plant a drefnwyd o dan Gynnig Gofal Plant Cymru am gyfnod o dri mis o 18 Mawrth ymlaen;
- Gohirio ceisiadau newydd ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru am gyfnod o dri mis o 1 Ebrill ymlaen; a
- Sefydlu Cynllun Cymorth Gofal Plant ar gyfer argyfwng y coronafeirws, gan ddefnyddio cyllideb y Cynnig Gofal Plant i dalu am ofal ar gyfer plant cyn oed ysgol gweithwyr hanfodol ac ar gyfer plant agored i niwed am gyfnod o dri mis o 1 Ebrill ymlaen.
Pan gafodd yr ymrwymiadau hyn eu pennu, roedd y cyngor gwyddonol yn glir. Roedd angen inni leihau nifer y cyfleoedd i ryngweithio rhwng pobl er mwyn rheoli trosglwyddiad y feirws a lleihau lefelau heintio. O ystyried hynny, roedd angen gofalu am blant yn y cartref, os oedd hynny’n bosibl, ac roedd angen sicrhau bod nifer y plant mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant yn isel. Gofynnwyd i leoliadau gofal plant flaenoriaethu gofal plant i weithwyr hanfodol ac i blant agored i niwed.
Rydym o’r farn bod y sefyllfa ledled Cymru yn gwella, ond rhaid inni weithredu’n ofalus o hyd a gweithio ar y cyd i ddiogelu Cymru. Rydym yn gofyn i bobl aros yn lleol, i ddiogelu iechyd y cyhoedd a helpu i reoli’r risgiau. Ond, rydym hefyd yn parhau i gymryd camau pwyllog tuag at leihau’r cyfyngiadau, sy’n cael eu cefnogi gan ein system i olrhain cysylltiadau.
Bellach, ryw dri mis yn ddiweddarach, mae’n bryd inni adolygu’r ymrwymiadau hynny, gan gynnwys y sefyllfa ehangach mewn perthynas â darparu gofal plant.
Byddwn yn parhau i ohirio ceisiadau newydd ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru am ddau fis ychwanegol. Hynny yw, tan o leiaf diwedd mis Awst. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ni fydd ein partneriaid cyflenwi yn yr awdurdodau lleol yn derbyn nac yn prosesu unrhyw geisiadau newydd, ac ni fydd gan unrhyw blentyn yr hawl i ddechrau cael gofal o dan y Cynnig.
Rwy’n ymwybodol y bydd hynny’n siom fawr i nifer o deuluoedd a oedd wedi gobeithio elwa ar y Cynnig yn ystod tymor ysgol yr haf. Byddwn yn cynnal adolygiad pellach o’r sefyllfa ym mis Awst, gyda’r bwriad o ailgyflwyno’r Cynnig ym mis Medi os yw’n bosibl inni wneud hynny.
Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn parhau i ddarparu gofal plant a ariennir ar gyfer plant cyn oed ysgol i weithwyr hanfodol a phlant agored i niwed o dan Gynllun Cymorth Gofal Plant: y Coronafeirws. Mae’r cynllun hwn, sy’n cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol, yn chwarae rhan bwysig i sicrhau nad yw ein gweithwyr hanfodol yn wynebu unrhyw rwystrau ychwanegol yn eu hymateb i’r feirws. Mae darparu gofal plant diogel i’r gweithwyr hynny yn allweddol i sicrhau eu bod yn gallu ein helpu ni drwy’r cyfnod hwn.
Cymru yw’r unig genedl yn y Deyrnas Unedig sy’n darparu gofal plant a ariennir i blant sy’n fwy agored i niwed ac sy’n wynebu heriau penodol yn ystod y cyfnod hwn; i’w cefnogi nhw a’u teuluoedd. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnig y ddarpariaeth honno dros gyfnod yr haf i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi wrth inni symud tuag at gam nesaf ein hymateb.
Mae’r cyfnod hwn wedi bod, ac yn parhau i fod, yn un anodd, i’r sector gofal plant. Dros y cyfnod hwn, rydym wedi gweld nifer sylweddol o leoliadau’n cau, a nifer prin o blant yn bresennol mewn eraill. Mae nifer o leoliadau wedi rhoi eu staff ar ffyrlo, ac wedi ceisio cael cymorth gan y cynlluniau grant a benthyciadau amrywiol sydd ar gael. Mae’r lleoliadau hynny, a ninnau hefyd, am weld sector cryf yn ymddangos yn dilyn yr argyfwng hwn, gan gynnwys gweld y ddarpariaeth yn ailddechrau pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.
Ar 18 Mawrth yr hyn a ddywedwyd oedd y byddem yn parhau i dalu am oriau o ofal plant a drefnwyd o dan y Cynnig am gyfnod o dri mis – hyd yn oed os nad oedd y plentyn yn gallu mynd i’r lleoliad, neu os oedd angen i’r lleoliad gau o ganlyniad i’r feirws. Roedd yr ymrwymiad hwnnw’n berthnasol ar gyfer cyfnod penodol, gan gydnabod y byddai sicrwydd y cyllid yn allweddol i sicrhau bod nifer o leoliadau’n parhau i fod yn ariannol hyfyw.
Ar 3 Mehefin, roeddem wedi cadarnhau ein bod yn anelu at alluogi lleoliadau gofal plant i gynyddu eu gweithrediadau o 29 Mehefin ymlaen, ochr yn ochr â’r ysgolion. Er y bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar 18 Mehefin, fel rhan o’r adolygiad nesaf o’r cyfyngiadau, gall lleoliadau gofal plant ddechrau cynllunio ar gyfer ailddechrau eu darpariaeth. Yn ystod y cam hwn, bydd angen cynnig mathau eraill o gymorth.
Am y rheswm hwnnw, ni fyddwn yn ailgydio yn yr ymrwymiad a wnaed ar 18 Mawrth mewn perthynas â thaliadau ar gyfer gofal plant a drefnwyd o dan y Cynnig.
Felly, wrth symud ymlaen, dim ond os bydd lleoliad ar agor, ac os bydd plentyn yn mynychu’r lleoliad yn rheolaidd, y byddwn yn gwneud y taliadau hynny.
Er nad yw’r Cynnig ar gael i geisiadau newydd o hyd, gall y plant hynny a oedd yn gymwys i gael gofal plant ac yn cael gofal plant o dan y Cynnig cyn 31 Mawrth barhau i wneud hynny os ydynt yn parhau i fod yn gymwys. Os bydd y plant hynny yn cael gofal plant rheolaidd, byddwn yn talu am gostau’r oriau a ddarperir o dan y Cynnig.
Fodd bynnag, os bydd lleoliad ar gau, neu os na fydd plentyn yn mynychu lleoliad yn rheolaidd bellach, ni fyddwn yn talu’r costau hynny.
Byddwn yn cydweithio â’n partneriaid dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf i gefnogi adferiad y sector gofal plant. Bydd canllawiau i gefnogi ailagor lleoliadau a’u gweithredu mewn modd diogel yn cael eu cyhoeddi yr wythnos yma, a byddwn yn parhau i ddiweddaru’r canllawiau hynny wrth i dystiolaeth newydd ymddangos. Mae’r canllawiau wedi’u datblygu gyda’r cyrff ymbarel gofal plant a rhanddeiliaid allweddol eraill, ac mae’n nhw’n cynnwys gwybodaeth fanwl ar feysydd megis atal a rheoli heintiau, y Strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, a chymysgu cymdeithasol.
Yn olaf, hoffem ddiolch i’r lleoliadau hynny sydd wedi aros ar agor, ac sydd wedi parhau i ofalu am ein plant dros y cyfnod hwn – a diolch i bawb sy’n gweithio i wasanaethau gofal plant a chwarae am y gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi ein plant.