Vaughan Gething, AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy’n ysgrifennu ynglŷn â chyhoeddiad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar 8 Tachwedd am becyn newydd ar gyfer y gaeaf i roi rhagor o gymorth i blant a theuluoedd ar incwm isel. Roedd hwn yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu’r taliadau ar gyfer y cynllun Cychwyn Iach yn Lloegr yn unig o £3.10 i £4.25 yr wythnos o fis Ebrill 2021. Yn dilyn trafodaethau rhwng fy swyddogion a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’n glir bod rhaid i’r mesur hwn fod yn berthnasol i fuddiolwyr yng Nghymru hefyd. Mae’n drueni bod y cyhoeddiad hwn wedi’i wneud heb ymgynghori â Gweinidogion Cymru ac rwyf wedi mynegi’r pryderon hyn wrth yr Ysgrifennydd Gwladol.
Byddwn nawr yn gweithio gyda rhanddeiliaid a chymunedau i sicrhau bod teuluoedd ledled Cymru yn ymwybodol o’r newidiadau pwysig hyn. Bydd y cynllun yn mynd yn ddigidol o fis Ebrill hefyd, gyda’r nod o wneud y broses o wneud cais a defnyddio’r cynllun yn fwy syml. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn gallu darparu cymorth maeth i ferched beichiog sydd ar incwm isel, mamau â phlant o dan flwydd oed a phlant o dan bedair oed mewn teuluoedd sy’n derbyn budd-daliadau penodol. Bydd hyn yn helpu i roi’r dechrau gorau iddynt mewn bywyd.