Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
O 22 Rhagfyr, mae’r rheini sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol wedi cael eu cynghori na ddylent fynd i'r gwaith na'r ysgol y tu allan i'r cartref mwyach ac y dylent aros gartref gymaint â phosibl. Gwnaed y newid hwn yng nghyd-destun y twf esbonyddol yn nifer yr achosion o’r coronafeirws, ynghyd â’r amrywiolyn newydd o’r coronafeirws y canfuwyd ei fod yn cylchredeg yng Nghymru. Mae'r cyngor hwn ar waith tan 31 Mawrth.
Mae nifer yr achosion bellach yn sylweddol is nag yr oedd ym mis Rhagfyr ac mae tueddiad tuag at i lawr yn y niferoedd ar draws Cymru. Gan fod yn ymwybodol o'r niwed sy’n gysylltiedig â gofyn i bobl ddilyn mesurau gwarchod, rhaid inni beidio â chadw’r cyngor hwn ar waith am fwy o amser nag sy’n gwbl angenrheidiol. Yng ngoleuni'r newid yn y cyd-destun, mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi argymell y dylid cael saib yn y cyngor i'r rheini sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ddilyn mesurau gwarchod ar ôl 31 Mawrth.
Mae'n bwysig nodi, ar yr union adeg yr ydym yn bwriadu llacio’r cyfyngiadau, a chyda’r dos cyntaf o’r brechlyn wedi cael ei gynnig i bawb yn y grŵp hwn, fod profiad wedi dangos bod angen inni fod yn barod i gryfhau’r cyngor eto o bosibl os bydd angen. Bydd y rhestr gwarchod cleifion yn parhau i fod ar waith ac ar gael os bydd angen inni ofyn i unrhyw un ddilyn mesurau gwarchod eto yn y dyfodol. Rwyf wir yn gobeithio na fydd yn angenrheidiol gwneud hynny.