Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Un o ymrwymiadau ein Maniffesto “Sefyll Cornel Cymru” oedd sefydlu Uned Gyflawni Prif Weinidog Cymru. Byddai’r Uned hon yn chwarae rhan ganolog o fewn Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar ein hagenda graidd a sicrhau bod blaenoriaethau strategol y Llywodraeth yn cael eu cyflawni mewn modd integredig a syml. Hoffem allu werthuso ar unrhyw adeg effaith ein polisïau er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni’r canlyniadau hollbwysig ar gyfer pobl Cymru.
Gweision sifil fydd yn cynnal yr Uned Gyflawni, a byddant yn adrodd yn uniongyrchol wrthyf i ynghylch cynnydd ac effeithiolrwydd pob adran o ran cyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Tîm a fydd yn edrych o’r tu allan fydd yr Uned a fydd yn ychwanegu gwerth a manylder – ni fydd yn gwneud gwaith pobl eraill drostynt nac yn cyflwyno beichiau biwrocrataidd.
Gan mai fi fydd yn bersonol gyfrifol am gyflawni rhaglen Llywodraeth Cymru fi fydd yn gyfrifol am raglen waith yr Uned Gyflawni. Bydd yn canolbwyntio’n benodol ar ymrwymiadau a blaenoriaethau allweddol ein maniffesto. Bydd yn darparu adroddiadau cyflawni rheolaidd i mi ar holl flaenoriaethau’r llywodraeth fel y gallaf ddwyn Gweinidogion ac adrannau i gyfrif am hynt eu gwaith.
Caiff Uned Gyflawni Prif Weinidog Cymru ei lleoli ar bumed llawr Tŷ Hywel ond bydd yn rhan o Gyfarwyddiaeth Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad Michael Hearty. Mae’r uned wrthi’n cael ei sefydlu a bydd yn weithredol o ddechrau mis Medi. Caiff Costau Rhedeg Adrannau presennol eu defnyddio i’w hariannu a bydd gweision sifil o rannau eraill o Lywodraeth Cymru yn dod ar secondiad iddi. Bydd Dirprwy Gyfarwyddwr yn bennaeth ar yr uned ac ni fydd yn cynnwys mwy na 7 aelod o staff.
Swyddogaeth Uned Gyflawni Prif Weinidog Cymru fydd:-
- Sicrhau bod pob rhan o Lywodraeth Cymru yn cyflawni hyd eithaf eu gallu, gan gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn unol â thargedau mesuradwy a chlir.
- Llunio adroddiadau cyflawni ynghylch adrannau, gan fesur y modd y maent yn cyflawni blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru yn unol â chanlyniadau mesuradwy. Byddai’r adroddiadau hyn yn nodi a oedd disgwyl iddynt eu cyflawni ai peidio.
- Rhoi her, yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Gwaredu unrhyw rwystrau a chefnogi cydweithio ar draws adrannau ynghylch materion trawsbynciol.
- Sicrhau bod systemau’n bodoli i fesur effaith polisïau ar lawr gwlad ac i ganfod unrhyw broblemau neu rwystrau posibl a allai fod yn datblygu.