Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o dystiolaeth mewn perthynas â thueddiad grwpiau penodol o ddal COVID-19, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi dweud nad yw plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol mwyach yn y cyd-destun hwn, a’u bod yn mynd i gael eu tynnu oddi ar y rhestr gwarchod cleifion.

Cafodd y penderfyniad i dynnu plant a phobl ifanc oddi ar y rhestr gwarchod cleifion ei wneud o ganlyniad i astudiaethau a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU o effaith haint COVID-19 ar blant a phobl ifanc. Daeth yr astudiaethau hyn i’r casgliad bod y perygl i blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rheini yr ystyriwyd yn wreiddiol eu bod yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol gan y clefyd, o gael salwch difrifol neu farw pe baent yn cael eu heintio gan y feirws yn isel iawn. Cafodd yr wybodaeth hon ei thrafod wedi hynny gan banel o arbenigwyr meddygol yn y DU a argymhellodd na ddylid ystyried mwyach fod plant a phobl ifanc yn eithriadol o agored i niwed o COVID-19 ac y dylid eu tynnu felly oddi ar y rhestr gwarchod cleifion. Cytunwyd ar yr argymhelliad hwn gan holl Brif Swyddogion Meddygol y DU.

Rydym wedi bod yn ymwybodol ers amser bellach fod y perygl i blant a phobl ifanc o gael salwch difrifol neu o farw yn isel iawn. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n byrddau iechyd ers yr haf y llynedd i weithredu cyngor y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, a awgrymodd mai ychydig iawn o blant yn unig ddylai warchod eu hunain. Bydd y cyngor newydd hwn yn golygu dileu’r oddeutu 2,700 o blant a phobl ifanc sy’n dal i fod ar y rhestr yng Nghymru.

Mae’r newid hwn yn fater ar wahân i gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), a byddwn yn parhau felly i frechu rhai plant 12-15 oed sydd â chyflyrau iechyd penodol neu sy’n byw gydag unigolion (oedolion neu blant) sydd â systemau imiwnedd gwan, yn unol â’r cyngor y gallai fod o fudd i rai grwpiau gael eu brechu.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn y llythyr a gyhoeddwyd ganddo ym mis Gorffennaf, fod y rhestr gwarchod cleifion yn cael ei hadolygu ac ymrwymodd i ysgrifennu at y sawl a oedd yn cael eu heffeithio gan unrhyw newid. Felly, gyda hyn, bydd yn ysgrifennu at yr holl blant a phobl ifanc sydd ar y rhestr i egluro, fel grŵp, nad ydynt yn cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed gan effeithiau’r haint COVID-19 mwyach. Yn ddi-os, mae’r ffaith nad yw plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed gan y feirws mwyach yn newyddion da. Fodd bynnag, bydd y llythyr hefyd yn dal i gynghori’r grŵp hwn y dylent barhau i wneud popeth posibl i leihau’r perygl o ddal y feirws, fel y dylai pawb arall yng Nghymru. Rhoddir y cyngor hwn oherwydd bod effeithiau eraill gan COVID-19 yr ydym yn dal i ddysgu amdanynt, gan gynnwys COVID hir.

Er bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr gwarchod cleifion, ceir nifer bach yn y grŵp hwn o hyd a allai fod wedi’u cynghori gan eu harbenigwyr eu hunain i ynysu neu i leihau eu cysylltiadau cymdeithasol oherwydd eu cyflwr meddygol neu’r driniaeth y maent yn ei derbyn. Mewn achosion o’r fath, cynghorir plant a phobl ifanc i barhau i ddilyn cyngor eu clinigydd eu hunain.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.