Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y dull yr ydym yn parhau i’w ddilyn yw nad yw COVID-19 wedi diflannu, a bod angen i’r cynlluniau pontio o bandemig i endemig gael eu pennu gan y sefyllfa iechyd y cyhoedd ar y pryd.

Bydd ein hamcanion wrth symud ymlaen yn parhau i ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Diogelu’r rheini sy’n agored i niwed rhag clefyd difrifol drwy alluogi mynediad at frechu, triniaethau; a diogelu pobl rhag y risg o gael eu heintio.
  • Cynnal y capasiti i ymateb i frigiadau o achosion yn lleol ac mewn lleoliadau risg uchel.
  • Cadw systemau gwyliadwriaeth effeithiol ar waith i nodi unrhyw ddirywiad yn y sefyllfa megis yn sgil amrywiolion niweidiol a mwtaniadau sy’n peri pryder.
  • Paratoi ar gyfer dychweliad posibl y feirws.

Roedd ein cynllun o dan COVID Sefydlog yn cydnabod ein bod yn dal i ddisgwyl i donnau ychwanegol o heintiau ac amrywiolion newydd ddod i’r amlwg, ac y gallai rhai ddod yn ffurfiau mwyaf cyffredin. Ni ddisgwylir i’r tonnau hyn roi pwysau anghynaliadwy ar y system Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a bydd brechlynnau ac ymyriadau fferyllol eraill yn parhau i fod yn effeithiol wrth atal salwch difrifol.

Ar ôl cynnydd mewn achosion o’r is-amrywiolion BA.4 a BA.5 yn ystod mis Mehefin fe wnaethom ymestyn mynediad at brofion llif unffordd am ddim i’r cyhoedd sydd â symptomau COVID-19 tan 31 Gorffennaf. Y disgwyliad oedd i’r don gyrraedd ei hanterth cyn diwedd mis Gorffennaf. Nododd cyngor gan y Gell Cyngor Technegol, dyddiedig 22 Gorffennaf, fod y pwysau ar y GIG wedi cyrraedd uchafbwynt yng nghanol mis Gorffennaf, ac mae’n ymddangos ei fod wedi gostwng ers hynny. Roedd tua 18 o dderbyniadau i’r ysbyty oherwydd COVID-19 y dydd ar 26 Gorffennaf, yn dilyn uchafbwynt o 28 o dderbyniadau’r dydd bythefnos ynghynt. Ar y cyfan, mae lefelau marwolaethau yn parhau i fod ar lefelau is o gymharu â thonnau blaenorol.

Amcangyfrifodd Arolwg Heintiadau COVID-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer yr wythnos yn gorffen 20 Gorffennaf fod gan 5.14% (1 o bob 19) o boblogaeth gymunedol Cymru COVID-19, sydd wedi gostwng o 6.03% (1 o bob 17) yr wythnos ynghynt.

O ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf, gan gynnwys gostyngiad yn nifer yr achosion, o 1 Awst ymlaen byddwn yn rhoi’r gorau i ddarparu profion llif unffordd am ddim i’r cyhoedd sydd â symptomau COVID-19. Mae hyn yn cyd-fynd â’n cynllun pontio hirdymor COVID-19 Cymru o bandemig i endemig, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth. Mae hefyd yn sicrhau ein bod yn diogelu adnoddau ar gyfer tonnau posibl yn y dyfodol yn ystod yr hydref/gaeaf a allai, ochr yn ochr â thywydd oerach a firysau anadlol eraill, ddarparu heriau a risgiau ychwanegol.

Yn unol â’n hamcan i ddiogelu’r rheini sy’n agored i niwed byddwn yn parhau i ddarparu’r canlynol o dan y cynllun Profi Olrhain Diogelu:

  • Profion llif unffordd a PCR i’r rheini sy’n gymwys am driniaethau COVID-19.
  • Profion llif unffordd i bobl sy’n ymweld â’r rheini sy’n gymwys am driniaethau COVID-19.
  • Profion llif unffordd i bobl sy’n ymweld â chartrefi gofal.
  • Profion PCR am COVID-19 a feirysau anadlol eraill ar gyfer preswylwyr symptomatig mewn cartrefi gofal a charcharorion.
  • Profion PCR a phrofion llif unffordd yn unol â’r fframwaith profi cleifion a barn glinigol.
  • Profion llif unffordd i staff symptomatig iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Profion llif unffordd ar gyfer profi ansymptomatig i staff iechyd a gofal cymdeithasol (Bydd hyn yn cael ei adolygu pan fydd nifer yr achosion yn is).
  • Ymestyn y cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol COVID-19 tan 31 Awst i gefnogi staff gofal cymdeithasol i aros i ffwrdd o’r gwaith os ydynt wedi cael prawf positif.

Bydd hyn yn cyd-fynd â’n cyngor a’n deunyddiau cyfathrebu ar ymddygiadau amddiffynnol i aros gartref os oes gennych symptomau, golchi dwylo’n rheolaidd ac annog gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau gorlawn a lleoliadau iechyd a gofal.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau’n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd byddwn yn hapus i wneud hynny.