Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy’n ddiolchgar tu hwnt i’r staff sy’n gweithio yn ein hysgolion a’n colegau am bopeth maent wedi’i wneud i gefnogi dysgwyr wrth iddynt ddychwelyd ar gyfer y tymor newydd ac i’n lleoliadau gofal plant am gefnogi ein plant iau.
Ers dechrau mis Medi, mae lefelau profion llif unffordd a PCR wedi bod yn uwch nag erioed, yn enwedig ymysg plant oed ysgol, gan ein galluogi i ddarganfod mwy o achosion.
Drwy ddarganfod ac ynysu achosion positif, gallwn helpu i atal COVID-19 rhag trosglwyddo ymhellach. Diolch i’r rhaglen frechu lwyddiannus, nid yw’r cyfraddau uchel presennol o achosion o COVID-19 yn arwain at lefelau uchel o salwch difrifol.
Rwy’n benderfynol o wneud popeth y gallaf i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar addysg a gofal plant. Rwy’n cydnabod bod rhai ysgolion a rhieni wedi bod yn ansicr ac yn bryderus y gall disgyblion fynychu ysgol neu goleg os ydynt wedi dod i gysylltiad ag achos positif ar yr aelwyd cyhyd â’u bod yn asymptomatig. Rwyf wedi gwrando ar y pryderon hyn ac wedi ystyried pa sicrwydd ychwanegol y gellir ei roi ar yr un pryd â galluogi dysgwyr i barhau i fynychu’r ysgol.
Rwy’n diwygio ein cyngor a’n canllawiau i ddysgwyr o dan 18 oed mewn ysgolion uwchradd a cholegau y mae aelod o’u haelwyd wedi profi’n bositif am COVID-19. Yn ogystal â phrofion PCR ar Ddiwrnod 2 a Diwrnod 8, argymhellir y dylent gymryd profion llif unffordd bob dydd am saith diwrnod. Dylai hyn ddechrau ar y diwrnod pan gafodd aelod o’r aelwyd gadarnhad o ganlyniad prawf llif unffordd neu PCR positif. Pan fo’n briodol, hoffem leihau lefel y profi a wneir ar gyfer plant heb symptomau ond oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion a’r pryderon a fynegwyd am gysylltiadau ar aelwydydd, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i gadw plant yn yr ysgol.
Bydd y newidiadau’n dod i rym yn ffurfiol o ddydd Llun 11 Hydref ymlaen. Dylai unrhyw ddysgwyr o dan 18 oed mewn ysgol uwchradd neu goleg sydd wedi cael gwybod eu bod wedi dod i gysylltiad ag achos positif ar yr aelwyd ddechrau defnyddio profion llif unffordd am 7 diwrnod ar unwaith. Bydd hyn yn helpu i roi sicrwydd pellach nad ydynt yn heintus i eraill.
Wrth ystyried gwerth profion, a phrofion ar gyfer pobl asymptomatig yn benodol, mae’n bwysig ystyried y niwed posibl. Rwyf wedi bod yn bryderus am lefel y profion PCR ar gyfer plant o dan 5 oed – mae’r nifer bum gwaith yn fwy nag yr oedd ddechrau mis Awst.
Gall profion fod yn brofiad annifyr i’r plentyn, gall fod yn anodd cael sampl briodol ac, wrth gwrs, mae plant o’r oed hwn yn llawer llai tebygol o drosglwyddo’r feirws i eraill.
Yn dilyn cyngor gan ein grŵp cynghori ar brofion, rwyf wedi cytuno na fyddwn mwyach yn argymell bod plant o dan 5 oed yn cymryd profion COVID-19 heb symptomau. Pan fo gan blant o dan 5 oed symptomau, ni fyddem yn argymell profion fel rheol, oni bai bod meddyg yn dweud y dylid cymryd prawf neu fod rhieni’n credu bod prawf yn gwbl angenrheidiol ac er lles y plentyn.
Rwyf hefyd wedi ystyried rôl profion mewn perthynas â disgyblion sydd o bosibl yn fwy agored i niwed a’r oedolion sy’n gweithio gyda nhw.
Er nad yw’r mwyafrif helaeth o blant mewn ysgolion arbennig yn cael eu hystyried mwyach yn fwy agored i niwed yn sgil COVID-19, cydnabyddir bod yno gyfran lawer uwch o blant a phobl ifanc â risgiau clinigol. Yn amodol ar asesiad risg, bydd staff sydd wedi’u brechu ac sy’n gweithio mewn darpariaeth addysg arbennig sy’n cael eu nodi fel cyswllt ag achos positif, ar yr aelwyd neu fel arall, yn gorfod cael prawf PCR negatif cyn mynd i’r gwaith ac yna bydd yn ofynnol iddynt gymryd profion llif unffordd bob dydd.
Ni all profion ar eu pen eu hunain ddileu’r risgiau sy’n gysylltiedig â dal a throsglwyddo COVID-19. Mae profion yn helpu i nodi ac ynysu achosion positif i leihau’r risg o basio’r feirws ymlaen i eraill ond mae ymddygiadau mwy effeithiol eraill, fel golchi’ch dwylo’n rheolaidd a gwisgo masg pan fo’n briodol, yn hollbwysig o hyd.
Yn olaf, mae’r rhaglen frechu ar gyfer plant 12-15 mlwydd oed bellach wedi dechrau ac rydym yn annog y rhai sydd eisiau’r brechlyn i dderbyn y cynnig a chael eu brechu cyn gynted ag y maent yn cael y gwahoddiad.