Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Ein cyd-flaenoriaeth o hyd yw lleihau'r tarfu ar addysg, a sicrhau, lle bo hynny'n bosibl, bod dysgwyr yn parhau i dderbyn dysgu wyneb yn wyneb, yn ogystal ag amddiffyn staff, dysgwyr, ysgolion a chymunedau.
Rwy’n gwybod bod tymor yr hydref wedi bod yn arbennig o heriol i staff mewn ysgolion, dysgwyr a'u teuluoedd, ac mae lefel y tarfu oherwydd capasiti staff wedi arwain at rai ysgolion yn gorfod gwneud y penderfyniad anodd i symud rhai dosbarthiadau/grwpiau blwyddyn i ddysgu o bell ar gyfer cyfnodau byr.
Yn yr un modd, ar gyfer colegau, staff a dysgwyr, mae wedi bod tarfu parhaus i ddysgu o ganlyniad i’r pandemig, ond mae’r ymrwymiad i fodel dysgu cyfunol a’r ystod oedran o ddysgwyr mewn addysg bellach wedi golygu bod ysgolion wedi gallu ateb yn hyblyg i gynnig dysgu ar-lein lle mae wedi bod galw am hynny.
I gydnabod yr heriau y mae ysgolion a cholegau wedi'u hwynebu, a'r lefelau o ansicrwydd cyfredol ynghylch effaith Omicron, rydw i heddiw wedi ysgrifennu at bob ysgol a choleg i ddarparu cymaint o eglurder nawr ag y gallaf i'w galluogi i gynllunio a pharatoi ar gyfer y dychweliad ym mis Ionawr.
Mae'r camau canlynol yn cael eu rhoi ar waith i helpu ysgolion i gyflawni ein nod cyffredin o sicrhau cynifer o gyfleoedd i ddysgu a lleihau ar unrhyw darfu.
- Rwy'n darparu dau ddiwrnod cynllunio i bob ysgol ar ddechrau tymor y gwanwyn. Bydd hyn yn caniatáu amser i ysgolion asesu gall capasiti staffio a rhoi'r mesurau angenrheidiol ar waith i gefnogi dychweliad dysgwyr. Gofynnir i ysgolion ddefnyddio'r cyfle hwn i sicrhau bod cynlluniau cadarn mewn lle er mwyn symud i ddysgu o bell pe bai angen – gallai hyn fod ar gyfer dosbarthiadau/grwpiau blwyddyn unigol neu o bosib ar gyfer yr ysgol gyfan, gan ddibynnu ar bwysau ar gapasiti staffio. Gofynnir i ysgolion hefyd ddefnyddio’r cyfle hwn i ailedrych ar gynlluniau wrth gefn, gan sicrhau bod blynyddoedd arholiad yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer darpariaeth ar y safle pe bai angen cyfyngu ar ddysgu wyneb yn wyneb ar unrhyw adeg ac ystyried pa drefniadau y gallai fod angen bod ar waith ar gyfer dysgwyr bregus a phlant gweithwyr hanfodol yn ystod unrhyw gyfnodau o darfu.
- Fel dull rhagofalus mae pob ysgol wedi eu cynghori i gynllunio bod camau lliniaru o fis Ionawr ymlaen yn seiliedig ar y rhai a nodir ar y lefel risg ‘Uchel Iawn’ yn ein Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Lleol ar gyfer ysgolion. Fel rhan o'r paratoad hwn, rwy'n cyhoeddi Hysbysiad Deddf Coronafeirws 2020 i ganiatáu i ysgolion amrywio amseroedd cychwyn a gorffen o ddechrau'r tymor newydd fel cam lliniaru ychwanegol pe bai ysgolion yn penderfynu bod hyn yn briodol fel rhan o'u proses asesu risg.
Ar gyfer colegau:
- Rwy'n cadarnhau y dylai colegau barhau i ddarparu dysgu gan ddefnyddio'r fframwaith rheoli heintiau lleol ochr yn ochr â'r protocolau a gytunwyd ar y cyd gyda’r Undebau Llafur. Bydd hyn yn caniatáu i golegau wneud penderfyniadau lleol yn seiliedig ar anghenion staff, dysgwyr a chymunedau. Bydd colegau yn parhau i fod yn ofalus ac yn cyflwyno dysgu yn ddiogel ac yn hyblyg, gan gynnwys yr opsiwn i gymryd dau ddiwrnod cynllunio neu i symud rhywfaint o ddysgu ar-lein ar ddechrau tymor y gwanwyn. Gofynnwyd i golegau ystyried anghenion pob dysgwr gan gynnwys darparu mynediad i'r campws lle na all dysgwyr gyrchu deunyddiau dysgu ar-lein neu fod angen lle diogel arnynt.
- Bydd y dull hyblyg hwn yn galluogi colegau i gefnogi pob dysgwr, gan gynnwys y rhai sy'n paratoi ar gyfer eu harholiadau a'u hasesiadau galwedigaethol. Yn ogystal, bydd hyn yn darparu parhad i fynediad i ddysgwyr bregus, dysgwyr ar gyrsiau ymarferol na allant gael mynediad at ddysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb a chefnogaeth i'r dysgwyr hynny sy'n ei chael hi'n anodd cyrchu dysgu ar-lein.
- Fel dull rhagofalus, cynghorwyd pob coleg i gynllunio ar gyfer camau lliniaru o fis Ionawr ymlaen yn seiliedig ar y rhai a nodir ar y lefel risg ‘Uchel Iawn’ yn ein fframwaith rheoli heintiau lleol ar gyfer addysg bellach.
Ar gyfer ysgolion a cholegau:
- O’r dychweliad ym mis Ionawr, byddwn yn parhau â’n dull cenedlaethol o ran gwisgo gorchuddion wyneb.
- Byddwn yn cynnig profi ychwanegol sy’n cynnwys disgwyliad cryf y dylai holl staff a dysgwyr oed uwchradd brofi teirgwaith yr wythnos gan ddefnyddio Profion Llif Ochrol. Byddwn yn cryfhau ein hymdrechion cyfathrebu i atgoffa staff a dysgwyr o bwysigrwydd profi yn gyson.
- Bydd ein trefniadau ar gyfer staff mewn darpariaeth addysg arbennig yn parhau mewn lle. Fodd bynnag, bydd dull ‘profi i ddiogelu’ ar gyfer y staff hwn yn cael i gael ei ystyried ochr yn ochr â staff gofal cymdeithasol a lle bo hynny’n berthnasol bydd unrhyw newidiadau i’r trefniadau ar gyfer staff gofal cymdeithasol yn cael eu hadlewyrchu yn ein cyngor i staff mewn ysgolion arbennig.
Mae hon yn sefyllfa sy'n esblygu'n gyflym ac rydym yn parhau i fonitro'r data a'r dystiolaeth ddiweddaraf.
Hoffwn ailadrodd fy niolch i bawb yn y gymuned addysg am bopeth maen nhw wedi'i wneud yn ystod yr amseroedd mwyaf heriol hyn.