Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Rwyf wedi penderfynu trosglwyddo swyddogaethau, asedau a staff Byrddau Draenio Mewnol Powysland, Gwy Isaf a Chil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd hyn yn hwyluso ffordd fwy integredig o reoli ein cyfoeth naturiol yn y Rhanbarthau Draenio Mewnol. Bydd hefyd yn osgoi dyblygu materion trefniadol, yn sicrhau cadernid ac yn rhoi gwell gwerth am arian. Drwy gynnwys y gwariant hwn yn y fframwaith archwilio ac atebolrwydd y sefydlom ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn datrys, am yr hirdymor, y materion niferus a godwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg.
Byddaf yn trafod y materion trawsffiniol o ran Powysland a Gwy Isaf gyda’r Ysgrifennydd Gwladol sydd â chyfrifoldeb dros Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau paratoi’r gorchmynion angenrheidiol a gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy ar drefniadau pensiynau ac asedau yn gysylltiedig â’r Byrddau Draenio Mewnol, gyda’r nod o gyflawni’r trosglwyddiad hwn ym mis Ebrill 2015.