Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae ffigurau swyddogol yn cael eu cyhoeddi sy’n dangos bod bron i 200,000 o aelwydydd yng Nghymru – 14% – yn byw mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2021. Roedd 153,000 yn rhagor o aelwydydd mewn perygl o dlodi tanwydd.

Mae'r ffigurau hyn yn ddychryn ac yn peri pryder; maent yn dangos dyfnder yr argyfwng ynni cyn i’r gaeaf ddechrau a chyn i OFGEM godi’r cap ynni domestig 54% ym mis Ebrill.

Yn anffodus, rydym yn gwybod bod y gwaethaf eto i ddod. Rydym yng nghanol argyfwng costau byw digynsail, sy’n cael ei achosi gan brisiau ynni sy’n codi heb reolaeth. Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi dyfnhau'r argyfwng hwn.

Mae cyflwyno’r cap newydd ar brisiau ynni ddechrau’r mis yn peri risg o orfodi degau ar filoedd yn rhagor o bobl i ansicrwydd ynni a thlodi tanwydd.

Yn ogystal â phrisiau ynni cynyddol, rhaid i aelwydydd hefyd dalu taliadau sefydlog uwch ar eu biliau ynni domestig ac mae pobl yng Nghymru ymhlith y rhai sy'n cael eu taro galetaf. Mae’r cynnydd mwyaf yn y DU yng Ngogledd Cymru, gyda thaliadau sefydlog yn cynyddu 102%. Mae’r costau ychwanegol hyn yn cael effaith negyddol anghymesur ar aelwydydd incwm is a’r rhai ar fesuryddion rhagdalu.

Clywn hanesion dychrynllyd yn ddyddiol am bobl a theuluoedd sy'n ofni troi eu gwres ymlaen a chan deuluoedd sy'n wynebu'r dewis ofnadwy rhwng gwresogi a bwyta.

Os byddwn yn defnyddio’r amcangyfrifon tlodi tanwydd sydd wedi’u modelu ar gyfer 2021, sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, a’u hadolygu i ystyried prisiau tanwydd – trydan, nwy o’r prif gyflenwad ac olew gwresogi – o 1 Ebrill 2022 ymlaen, a chan gymryd bod pob aelwyd ar y cap prisiau newydd, gallwn amcangyfrif y canlynol:

  • Gallai hyd at 45% (614,000) o’r holl aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill 2022
  • Gallai hyd at 8% (115,000) o'r holl aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd difrifol
  • Gallai hyd at 15% (201,000) o'r holl aelwydydd fod mewn perygl o syrthio i dlodi tanwydd.

Er mai amcangyfrifon yn unig yw’r rhain, mae’r ffigurau hyn yn tanlinellu, unwaith eto, yr angen am gamau brys gan Lywodraeth y DU i liniaru’r boen a’r pryder ariannol y mae teuluoedd ac aelwydydd ledled Cymru yn eu profi.

Nid yw’r camau sydd wedi’u cynnig hyd yma – yr ad-daliad o £200 ar filiau trydan, y mae’n rhaid i bob talwr bil ei ad-dalu dros bum mlynedd – yn ddigon. Roedd Datganiad y Gwanwyn yn gyfle i Lywodraeth y DU amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, yn hytrach roedd yn ddatganiad ideolegol, atchweliadol gan y Canghellor, heb fesurau ymarferol i helpu’r rhai sydd angen cymorth fwyaf – nid oes dim i’r rhai sy’n methu gweithio a'r rhai ar incwm is.

Heddiw rydym yn ailadrodd ein cais i Lywodraeth y DU gymryd camau ar y cyd ac wedi’u targedu i liniaru’r argyfwng costau byw drwy wneud y canlynol:

  • Talu'r ad-daliad o £200 ar y bil trydan fel grant nad yw'n ad-daladwy i bawb sy'n talu'r biliau.
  • Cyflwyno cap is ar brisiau ynni ar gyfer aelwydydd incwm is fel eu bod yn gallu talu costau eu hynni yn well.
  • Cynyddu'r ad-daliad a delir drwy'r gostyngiad cartrefi cynnes a’r cynlluniau tanwydd y gaeaf.
  • Tynnu'r holl gostau polisi cymdeithasol ac amgylcheddol o filiau ynni aelwydydd ac, yn hytrach, eu talu o drethi cyffredinol, wedi'i ariannu'n rhannol o leiaf gan dreth ffawdelw ar yr elw gormodol a wneir gan gynhyrchwyr nwy ac olew.
  • Ailsefydlu’r codiad o £20 yr wythnos yn y Credyd Cynhwysol.

Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl drwy’r argyfwng costau byw digynsail hwn. Ers mis Tachwedd, rydym wedi buddsoddi mwy na £380m mewn pecyn o gymorth wedi’i dargedu i bobl. Mae hyn yn cynnwys rownd gyntaf y Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf – taliad o £200 ar gyfer aelwydydd incwm isel cymwys. Bydd hwn yn cael ei ymestyn yn ystod gaeaf 2022-23 i gyrraedd mwy o aelwydydd.

Mae pobl hefyd yn dechrau derbyn eu taliad costau byw o £150 – mae hwn ar gael i bawb sy’n talu’r dreth gyngor ym mandiau A i D a phawb sy’n cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ym mhob band treth gyngor. Bydd £25m pellach ar gael i awdurdodau lleol ar ffurf cronfa ddewisol.

Byddaf yn cadeirio ail uwchgynhadledd costau byw yn ystod y misoedd nesaf i edrych eto ar beth yn rhagor y gallwn ei wneud, gan weithio gyda phartneriaid, i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb y mae’r argyfwng presennol yn tynnu sylw clir ato.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.