Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae Maes Awyr Caerdydd yn rhan annatod o saernïaeth ein seilwaith cenedlaethol.  Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod Maes Awyr Caerdydd yn gwireddu ei botensial gwirioneddol fel maes awyr modern, cystadleuol, ffyniannus a llwyddiannus yn fasnachol, sy’n allweddol i hybu’r economi ac yn destun balchder i bobl Cymru. Dyna pam y cyhoeddais, fis diwethaf, y bydd Tasglu’n cael ei sefydlu i edrych ar sut y gallwn wneud y mwyaf o botensial y Maes Awyr.

Bwriad Tasglu Maes Awyr Caerdydd fydd rhoi sylw i sut y gellir gwella sefyllfa gystadleuol Maes Awyr Caerdydd, a hynny drwy gydweithio rhwng y perchnogion, Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach a’r gymuned fusnes. Cyfrifoldeb y cwmni gweithredu yw gweithrediadau masnachol o ddydd i ddydd Maes Awyr Caerdydd, ond bydd y Tasglu yn asiant dros newid ochr yn ochr â Maes Awyr Caerdydd, gan ddarparu gwell synergedd, cymorth ar y cyd a defnydd cydgysylltiedig o adnoddau er mwyn sicrhau canlyniadau a rennir.

Bydd gan y Tasglu nodau ac amcanion clir, sef:

  1. Ymgysylltu â phartneriaid i gynnal trafodaeth ar lefel uchel ar faterion strategol sy’n ymwneud â datblygu trafnidiaeth awyr.  
  2. Hybu mwy o gyfathrebu rhwng Maes Awyr Caerdydd, y gymuned fusnes, sector cyhoeddus Cymru a chyrff perthnasol eraill.  
  3. Nodi ac argymell y gwelliannau a’r buddsoddiadau penodol y mae eu hangen ar Gymru i roi hwb i gysylltedd yn yr awyr.
  4. Cyflenwi dealltwriaeth ar y cyd o’r ffactorau gweithredol a masnachol sy’n sail i ddatblygiad y diwydiant cludiant yn yr awyr.
  5. Cyflawni mentrau strategol ar y cyd i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi’u hanelu at:

    • Ehangu Maes Awyr Caerdydd (traffig hamdden, busnes a chludo nwydau).  
    • Gwella profiad defnyddwyr y maes awyr.
    • Gwneud y gorau o’i effaith economaidd, yn fasnachol ac ar gyfer Cymru.  
    • Lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol.


Fi fydd yn cadeirio’r grŵp a byddaf yn gofyn am gynrychiolaeth gychwynnol o: Faes Awyr Caerdydd, Cyngor Sir Bro Morgannwg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Parth Menter Sain Tathan, Panel Sector Twristiaeth, British Airways Maintenance (BAMC), Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) Cymru, Siambr Fasnach De Cymru ac Undebau Llafur perthnasol. Ni fydd aelodau’n cael eu talu, ond bydd modd cael taliadau atodol os bydd angen neu pan fydd yn briodol i’r mater sy’n cael ei drafod.

Bydd y Tasglu’n ystyried ac yn darparu argymhellion a chamau gweithredu ar nifer o faterion penodol (gweler isod). Caiff y rhain eu nodi mewn Blaenraglen Waith y cytunir arni mewn ymgynghoriad â’r Tasglu.

  1. Datblygu cyfres o fentrau strategol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd.
  2. Cydweithio ar farchnata a hyrwyddo Cymru’n gyffredinol fel cyrchfan i fusnes, twristiaeth a hamdden, a Maes Awyr Caerdydd yn benodol fel y porth rhyngwladol i Gymru.  
  3. Rheoli cysylltiadau a meithrin undod ar negeseuon craidd i wella cydweithredu ymysg yr holl randdeiliaid.

Mae cyfarfod cychwynnol wrthi’n cael ei drefnu.