Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Cymeradwywyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mawrth 2015 gan roi Cymru ar drywydd mwy cynaliadwy at sicrhau llesiant ei phobl. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant, sef Cymru mwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth ac iach sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sydd â chymunedau cydlynus ac sydd â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Er mwyn medru cyflawni’r nodau hyn rhyngom, mae angen ffordd arnom i fesur ein cynnydd ar lefel genedlaethol. Felly ar 16 Mawrth cyflwynais set o 46 o ddangosyddion cenedlaethol, hynny yn unol â’r gofyn yn Adran 10 y Ddeddf. Dyletswydd Gweinidogion Cymru fydd gweinyddu’r gofyn hwn ond rwyf wedi bod yn glir o’r dechrau’n deg eu bod yn ddangosyddion sy’n mesur Cymru gyfan, nid Llywodraeth Cymru’n unig.
Rhaid i’r astudiaethau a gynhelir gan fyrddau gwasanaethau lleol gyfeirio at y dangosyddion hyn wrth iddyn nhw ddadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd. Yn ein canllaw statudol, rydym yn annog cyrff cyhoeddus hefyd i ddefnyddio’r dangosyddion cenedlaethol fel rhan o’u tystiolaeth wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf.
Dechreuwyd datblygu’r dangosyddion ym mis Rhagfyr 2014 gyda chomisiwn i Athrofa Polisi Cyhoeddus Cymru i roi eu cyngor ar y mater. Ym mis Hydref 2015, cyhoeddon ni set ddrafft o ddeugain o ddangosyddion cenedlaethol gan ofyn a fydden nhw’n ein helpu yn y pen draw i ddeall faint o gynnydd sydd wedi’i wneud i gyflawni’r saith nod llesiant. Penderfynon ni ar bedwar maen prawf sylfaenol fel sail wrth ddatblygu’r dangosyddion. Y meini prawf hynny oedd (i) cadw’r nifer yn fach a hylaw, (ii) sicrhau eu bod yn berthnasol i Gymru gyfan, (iii) eu bod yn ystyrlon ac yn ategu ei gilydd a (iv) bod y dangosyddion yn taro tant gyda’r cyhoedd.
Mae cyhoeddi’r dangosyddion cenedlaethol yn garreg filltir bwysig iawn yn hanes Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r 175 o randdeiliaid ac unigolion a ymatebodd i’r ymgynghoriad cyhoeddus, ac i’r rheini a ddaeth i’r digwyddiadau ymgynghori neu a gafodd sgyrsiau yn eu hardaloedd. Hoffwn ddiolch hefyd i Gomisiynydd newydd Cenedlaethau’r Dyfodol a ymatebodd i’r ymgynghoriad.
Trwy’r ymgynghoriad, gwelsom mor anodd yw cael hyd i set o ddangosyddion all adrodd hanes bywyd yng Nghymru a dilyn hynt ein cynnydd at y Gymru a Garem a ddisgrifir yn ein saith nod llesiant. Cododd nifer o themâu yn ystod yr ymgynghoriad, ac fe’u codwyd hefyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Comisiynwyr eraill. Hoffwn drafod y themâu hynny yn y fan hon.
Cydraddoldeb – Rwyf am wneud yn siŵr bod y dangosyddion yn gallu adrodd stori wrthym o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru. I wneud hynny’n effeithiol, bydd angen inni wybod beth mae hynny’n olygu i’r bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Cododd hyn yn thema amlwg yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad. Fel ymateb i hynny rydym wedi nodi’r dangosyddion cenedlaethol hynny a fydd yn ein barn ni yn elwa o gael eu neilltuo fesul grŵp gwarchodedig ac rydym wedi cynnwys dangosydd newydd am y gwahaniaeth yng nghyflogau’r rhywiau.
Plant – O safbwynt yr ymatebion ynghylch rhoi sylw i fesur llesiant plant, rydym yn derbyn bod hyn yn bwysig i ddeall llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Rydym wedi cadarnhau y bydd y dangosyddion terfynol yn mesur llesiant meddygol plant a’u ffordd o fyw, yn ogystal â’r mesurau eraill rydym eisoes wedi’u cynnwys, megis y rheini ar y Gymraeg ac addysg. Fodd bynnag, mae llawer o’r meysydd llesiant goddrychol yn cael eu mesur yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ac nid yw hwnnw’n ymdrin â phlant. Mater i’r llywodraeth nesaf fydd ystyried opsiynau ar gyfer eu casglu yn y dyfodol.
Casglu – Caiff yr holl ddangosyddion rydym wedi’u cynnig eu casglu ar y lefel genedlaethol – ni fydd baich ychwanegol ar awdurdodau lleol na byrddau iechyd lleol i gasglu gwybodaeth newydd i’w chrynhoi ar lefel genedlaethol. Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus eisoes wedi esbonio’r hyn rydym wedi’i wneud fel ymateb i gyngor y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus i edrych unwaith eto ar fframwaith rheoli perfformiad y gwasanaethau cyhoeddus.
Rhoddodd y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol syniadau cychwynnol ger bron ynghylch carfanu dangosyddion, gan argymell set o brif ddangosyddion fydd yn gwella’r ffordd y maen nhw’n cael eu cyfathrebu. Rwy’n cytuno ei bod yn bwysig bod y dangosyddion cenedlaethol hyn yn taro tant y cyhoedd ac yn helpu i dynnu llun o Gymru. Rwy’n credu felly bod angen gwneud rhagor o waith ar hyn, a bod y Llywodraeth nesaf yn ei bwyso a’i fesur pan fydd yn ystyried pennu cerrig milltir cenedlaethol.
Bydd y dangosyddion cenedlaethol yn help i ddangos a yw’r nodau’n cael eu cyflawni, ond ni ellir ac yn wir, ni ddylid dibynnu arnynt i adrodd y stori gyfan. Mae’r atodiad technegol rydym wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r dangosyddion yn disgrifio’r meysydd gwybodaeth a data eraill y gellid eu defnyddio wrth ddefnyddio’r dangosyddion hyn.
Carai Llywodraeth Cymru ddiolch hefyd i’r ONS am eu cyfraniadau ac am ein tywys at set o ddangosyddion cadarn.
Ar gyfer Cymru gyfan y mae’r dangosyddion hyn.
Hoffwn ei gwneud yn glir mai diben y dangosyddion cenedlaethol yw mesur newidiadau yn y boblogaeth ac nid mesur perfformiad corff cyhoeddus neu strategaeth neu raglen. Ceir mecanweithiau eraill i fesur perfformiad cyrff cyhoeddus ac wrth i’r broses o ddiwygio’r gwasanaethau cyhoeddus fynd rhagddi, byddwn yn bwrw golwg arnynt. Bydd y dangosyddion cenedlaethol Cymru gyfan hyn, yn gyfle i ddefnyddio mwy na mesurau GDP syml er mwyn cael darlun o economi, cymdeithas, diwylliant ac amgylchedd Cymru. Dylai’r Cynulliad Cenedlaethol ymwneud â’r dangosyddion hyn hefyd, iddynt allu helpu â’r broses graffu.
Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i atgoffa Aelodau mai dim ond un rhan o’r Ddeddf yw’r Dangosyddion Cenedlaethol. Mater i’r Llywodraeth nesaf fydd pennu cerrig milltir ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a chyhoeddi’r adroddiad statudol cyntaf ar Dueddiadau’r Dyfodol yng Nghymru – gan roi inni sail gryfach o dystiolaeth genedlaethol o’r tueddiadau fydd yn effeithio ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn y tymor hir a byr.
Rydym wedi cyrraedd pwynt pwysig ar ein trywydd i wireddu’n huchelgais gytûn o Gymru gynaliadwy. Bydd y dangosyddion hyn yn help. Ond yn nwylo’r cyrff cyhoeddus sy’n dod o dan y Ddeddf, a busnesau, y trydydd sector a chymunedau y mae’r allwedd i sicrhau newid.