Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi ein Strategaeth Frechu COVID-19. Mae’n nodi sut y bydd y rhaglen frechu yn parhau i gyflawni mewn modd effeithiol, effeithlon a chyflym yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf er mwyn diogelu Cymru.

Mae ein Strategaeth Frechu COVID-19 ar gyfer yr Hydref a’r Gaeaf yn canolbwyntio ar frechu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed ac ar frechu plant a phobl ifanc. Mae hefyd yn canolbwyntio ar bigiadau atgyfnerthu ac yn ailddatgan ein hymrwymiad i beidio â gadael neb ar ôl. Mae’r Strategaeth yn nodi ein hamcanion a’n huchelgeisiau ar gyfer pob un o’r meysydd hyn. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y gweithgarwch a hynt y gwaith mewn perthynas â’r Strategaeth.   

Er mwyn llwyddo i gyflawni cam nesaf y rhaglen, bydd angen dull hyblyg eto er mwyn ymateb i gymhlethdodau cynyddol y carfanau brechu. Bydd angen i’r GIG ymateb yn brydlon ac yn effeithiol, fel y mae wedi’i wneud drwy gydol y pandemig. Rwy’n benderfynol o sicrhau bod cam nesaf ein rhaglen frechu yr un mor llwyddiannus â’r camau blaenorol o ran diogelu Cymru.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i roi’r rhaglen frechu ar waith; mae pob dos o’r brechlyn a roddir i rywun yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws ac yn helpu ein GIG.