Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi ein strategaeth frechu genedlaethol ar gyfer COVID-19. Mae’r strategaeth yn adlewyrchu misoedd o waith cynllunio manwl ar gyfer cyflwyno’r brechlyn ac yn amlinellu ein strategaeth genedlaethol a’n blaenoriaethau ar gyfer y misoedd i ddod.

Mae’r strategaeth yn amlinellu 3 carreg filltir allweddol:

  • Erbyn canol mis Chwefror – bydd pob preswylydd a staff mewn cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pawb dros 70 oed a phawb sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol wedi cael cynnig y brechlyn.
  • Erbyn y gwanwyn – bydd y brechlyn wedi cael ei gynnig i’r holl grwpiau blaenoriaeth cam un eraill. Mae hyn yn cynnwys pawb dros 50 oed a phawb y mae risg iddynt o ganlyniad i gyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes.
  • Erbyn yr hydref – bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i’r holl oedolion cymwys eraill yng Nghymru, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. 

Mae’r cerrig milltir yn amodol ar sicrhau cyflenwad digonol o frechlynnau. Er ein bod wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd cyflenwadau yn cael eu rhoi inni, yn y pen draw mae’r mater hwn y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru.

Mae sefyllfa’r pandemig yng Nghymru yn ddifrifol iawn ar hyn o bryd. Mae’r brechlyn yn rhoi gobaith inni i’r dyfodol ond mae’r daith o’n blaenau yn hir. 

Mae dros 86,000 o bobl eisoes wedi cael dos cyntaf eu brechlyn yng Nghymru. Mae hyn yn nifer sylweddol mewn ychydig dros fis. Mae mwy a mwy o bobl yn cael eu brechlyn bob wythnos a bydd y brechlynnau’n cael eu rhoi’n gyflymach wrth i fwy o gyflenwad fod ar gael, ac wrth i’n seilwaith dyfu. 

O heddiw ymlaen, byddwn yn cyhoeddi ystadegau yn ddyddiol. Byddaf hefyd yn cyhoeddi mwy o wybodaeth yn wythnosol o’r wythnos nesaf i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl Cymru am y rhaglen.