Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Sicrhau Mynediad i'r Cwricwlwm Llawn i bob disgybl. Roeddem wedi ceisio barn pobl ar oblygiadau dileu hawl rhieni i atal eu plant rhag astudio Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. 

Ar ôl ystyried yr ymatebion yn ofalus, gallaf gadarnhau na fydd hawl i dynnu’n ôl o Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Bydd y newid hwn yn galw am weithredu gofalus a sensitif.

Ein cyfrifoldeb ni fel llywodraeth yw sicrhau bod pobl ifanc, drwy addysg gyhoeddus, yn cael mynediad i ddysgu sy'n eu cefnogi i drafod a deall eu hawliau a hawliau pobl eraill. Mae'n hanfodol bod pob person ifanc yn cael mynediad i wybodaeth sy'n eu cadw’n ddiogel rhag niwed. Mae'r penderfyniad hwn heddiw yn sicrhau y bydd pob disgybl yn dysgu am faterion megis diogelwch ar-lein a chydberthnasau iach.

Rwy'n cydnabod bod hwn yn fater sensitif a bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn adlewyrchu pryderon dilys. Aeth yr ymatebion hyn y tu hwnt i ystyried yr hawl i dynnu disgyblion allan yn unig, gan ymdrin hefyd â rôl briodol y wladwriaeth mewn addysg ar y materion hyn, a sut y caiff dysgwyr eu haddysgu.   

Mae'n amlwg bod angen inni gydweithio â chymunedau a phob parti sydd â buddiant wrth gyd-adeiladu’r dysgu ac addysgu ym maes Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, gan ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r problemau a'r materion sensitif. Mae hyn yn hanfodol i alluogi pawb i ymddiried yn sut y caiff hyn ei weithredu - mae'n amlwg bod rhaid cyflwyno ein diwygiadau mewn modd sensitif.

Mae'r ddwy flynedd a hanner nesaf yn gyfle inni gydweithio i gytuno ar y testunau y mae ysgolion yn ymdrin â hwy, a'r canllawiau manwl i gefnogi eu harfer yn yr ystafell ddosbarth. Mae hefyd yn gyfle inni drafod y materion sy'n peri gofid inni a gwrando ar safbwyntiau pobl eraill. Byddaf yn rhoi strwythurau ar waith i gefnogi'r broses hon o gyfnewid safbwyntiau a sicrhau bod canllawiau clir, adnoddau a dysgu proffesiynol ar gael i ysgolion.   

Mae'n bleser gen i gyhoeddi y caiff Grŵp Ffydd/Cynnwys Cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ei sefydlu, a bydd y grŵp hwn yn cwrdd am y tro cyntaf ym mis Chwefror. Rôl y grŵp yw datblygu canllawiau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a datblygu dealltwriaeth gyffredin o'r cwricwlwm newydd. Bydd y grŵp hefyd yn trafod y pryderon a godwyd gan y grwpiau ffydd a'r grwpiau cymunedol yn ystod yr ymgynghoriad.

Byddwn yn parhau i gydweithio â chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys rhieni, gofalwyr ac ysgolion i daro cydbwysedd priodol rhwng hawliau rhieni i ofalu am eu plant a'u harwain i fod yn oedolion gydag ysgolion yn darparu addysg eang a chytbwys sy'n cyfrannu at les y cyhoedd.  Byddwn yn datblygu ar sail y gwaith ymgysylltu â'r gymuned a wnaed fel rhan o'r ymgynghoriad gan barhau’r buddsoddiad fydd yn ein galluogi i glywed yn uniongyrchol gan gymunedau am y materion sy'n peri pryder iddynt o ran Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a dod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â'r pryderon hynny.

Hoffwn gymryd y cyfle i brofi'r dull gweithredu newydd o ran Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb cyn ei gynnwys yn y cwricwlwm newydd.  Bydd hyn yn galluogi casglu gwybodaeth werthfawr i lywio'r gwaith o fireinio ein dull gweithredu bydd yn galluogi dysgwyr, rhieni, gofalwyr a chymunedau i weld y cwricwlwm newydd ar waith a rhoi adborth arno. Bydd rhagor o wybodaeth am y dull gweithredu hwn yn cael ei chyhoeddi maes o law.