Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi cynigion ar gyfer elfen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn 2022-23. Mae’r rhain yn cynnwys y dyraniadau cyllid refeniw craidd dros dro ar gyfer pob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli a darperir y cyllid ar gyfer pedwar Heddlu Cymru drwy drefniant tair ffordd, sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r Dreth Gyngor. Ar gyfer 2022-2023, bydd cyfanswm y cymorth craidd ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn £432.4 miliwn.

Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr, ac mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu wedi ei seilio ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu trosglwyddo’r cyllid ar gyfer y Gangen Arbennig allan o Brif Grant yr Heddlu i'r Grant Plismona Gwrthderfysgaeth, yn unol â chyllideb 2021-22. Gan fod y cyfanswm sy'n cael ei drosglwyddo yn seiliedig ar gyllideb heddluoedd ar gyfer 2021-22, a bydd yn parhau felly ar gyfer 2022-23, ni fydd y trosglwyddiad yn cael unrhyw effaith net ar yr heddluoedd.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith cyllid gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael cynnydd o 5.9% mewn cyllid craidd ar gyfer 2022-23, cyn yr addasiad a wneir ar gyfer trosglwyddo cyllid y Gangen Arbennig, o'i gymharu â 2021-22.

Yn 2022-23, bydd cydbwysedd y cyllid rhwng y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru yn newid. Ni fydd gostyngiad yn lefel y cyllid cyffredinol y bydd y heddluoedd yn ei dderbyn ond bydd cyfran y cyllid a dderbyniant yn uniongyrchol oddi wrth y Swyddfa Gartref yn cynyddu. Daw hyn o ganlyniad i benderfyniad y Swyddfa Gartref i roi’r gorau i drosglwyddo cyllid yn flynyddol i Lywodraeth Cymru ac i’w ddarparu yn hytrach yn uniongyrchol drwy Grant yr Heddlu a'r Grant Atodol. O ganlyniad, bydd gostyngiad o £29.93 miliwn yng nghyfraniad Llywodraeth Cymru at blismona. Newid gweinyddol yn unig yw hwn, ac ni fydd yn golygu unrhyw newid yn y cyllid cyffredinol ar gyfer unrhyw heddlu.

O ganlyniad, rwy’n awgrymu y dylid pennu cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr heddlu ar gyfer 2022-23 yn £113.47 miliwn. Mae’r cyllid gwaelodol yn cael ei darparu gan y Swyddfa Gartref. Mae’r ffigurau wedi’u crynhoi yn Nhablau 1 i 3 y Datganiad hwn. Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn nodi dechrau cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 13 Ionawr 2022. Yn dilyn hyn, gall dyraniadau gael eu diwygio ar gyfer y Setliad Terfynol.

Setliad yr heddlu: dros dro 2022 i 2023

Cyllid Refeniw yr Heddlu

Tabl 1: Cyllid Allanol Cyfun (Grant Cynnal Refeniw ac Ardrethi Annomestig Cenedlaethol) (£ miliwn) 1

Heddlu

2018-19

2019-20

2020-21

2021-22

2022-23

Dyfed-Powys

13.101

13.355

13.150

13.030

8.667

Gwent

31.083

31.701

31.790

31.857

25.939

Gogledd Cymru

22.122

22.496

22.614

22.523

16.513

De Cymru

74.594

75.848

75.845

75.989

62.352

Cyfanswm

140.900

143.400

143.400

143.400

113.470

Tabl 2: Grant yr Heddlu a Chyllid Gwaelodol (£ miliwn) 1, 2, 3

Heddlu

2018-19

2019-20

2020-21

2021-22

2022-23

Dyfed-Powys

36.212

36.993

40.967

44.497

52.272

Gwent

40.404

41.287

46.660

51.539

62.401

Gogledd Cymru

49.606

50.738

56.101

61.153

72.125

De Cymru

82.812

84.864

96.895

107.639

132.165

Cyfanswm

209.034

213.882

240.622

264.828

318.964

Tabl 3: Cyfanswm Cymorth Canolog (£ miliwn) 3

Heddlu

2018-19

2019-20

2020-21

2021-22

2022-23

Dyfed-Powys

49.313

50.348

54.116

57.528

60.939

Gwent

71.487

72.988

78.451

83.396

88.341

Gogledd Cymru

71.728

73.234

78.715

83.677

88.638

De Cymru

157.407

160.712

172.740

183.629

194.517

Cyfanswm

349.934

357.282

384.022

408.228

432.434

Nodiadau:

  1. Ers Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2015, mae'r Swyddfa Gartref wedi trosglwyddo cyllid yn flynyddol i Lywodraeth Cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru fodloni’r cyfraniad y cytunwyd arno ar ei chyfer at gyllid yr heddlu yng Nghymru. O 2022-23 ymlaen, ni fydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei drosglwyddo bellach a bydd, yn hytrach, yn cael ei ddarparu gan y Swyddfa Gartref drwy Grant yr Heddlu a'r Grant Atodol. O ganlyniad, bydd gostyngiad o £29.93 miliwn yng nghyfraniad Llywodraeth Cymru at blismona. Newid gweinyddol yn unig yw hwn, ac ni fydd yn golygu unrhyw newid yn y cyllid cyffredinol ar gyfer unrhyw Heddlu.
  2. Dyma swm grant yr heddlu a nodir yn adran 3 o Adroddiad Grant yr Heddlu sy’n cynnwys y dyraniad o dan ‘Prif Fformiwla’ ac ‘Ychwanegu Rheol 1’ (colofnau a a b) plws swm y ’cyllid gwaelodol’ y mae’r Swyddfa Gartref wedi’i sicrhau sydd ar gael.
  3. Dangosir y ffigurau ar gyfer 2022-23 cyn yr addasiad a wneir ar gyfer trosglwyddo cyllid y Gangen Arbennig, fel y nodir ym mharagraff 4.8 o Adroddiad Grant yr Heddlu.