Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi cynigion ar gyfer elfen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn 2021-22. Mae’r rhain yn cynnwys y dyraniadau cyllid refeniw craidd dros dro ar gyfer pob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Gan nad yw plismona wedi’i ddatganoli, bydd trefniant tair ffordd i’r cyllid ar gyfer heddluoedd Cymru, sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r Dreth Gyngor.

Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr, ac mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu wedi ei seilio ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.

Fel blynyddoedd blaenorol, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cynnydd yn y cyllid a dderbyniant o 6.3% ar gyfer 2021-22 o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2020-21.

Bydd y cyfanswm cymorth i heddluoedd yng Nghymru yn £408.2 miliwn. O fewn y swm hwn, rwy’n awgrymu y dylid pennu cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr heddlu ar gyfer 2021-22 yn £143.4 miliwn. Mae’r arian gwaelodol yn cael ei darparu gan y Swyddfa Gartref. Mae’r ffigurau wedi’u crynhoi yn Nhablau 1 i 3 y Datganiad hwn. Mae cyhoeddiad heddiw’n nodi dechrau cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 14 Ionawr 2021. Yn dilyn hyn, gall dyraniadau gael eu diwygio ar gyfer y Setliad Terfynol.

Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yma:

https://llyw.cymru/setliad-yr-heddlu-dros-dro-2021-i-2022

Cyllid Refeniw yr Heddlu

Tabl 1: Cyllid Allanol Cyfun (RSG+NNDR, £m)

 

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

2021-22

Dyfed-Powys

12.870

13.101

13.355

13.150

13.030

Gwent

30.583

31.083

31.701

31.790

31.857

Gogledd Cymru

21.907

22.122

22.496

22.614

22.523

De Cymru

73.341

74.594

75.848

75.845

75.989

Cyfanswm

138.700

140.900

143.400

143.400

143.400

Tabl 2: Grant yr Heddlu a Chyllid Gwaelodol (£m)

Dyma swm grant yr heddlu a nodir yn adran 3 a Adroddiad Grant yr Heddlu sy’n cynnwys y dyraniad o dan ‘Prif Fformiwla’ ac ‘Ychwane gu Rheol 1’ (colofnau a a b) plws swm y ’cyllid gwaelodol’ y mae’r Swyddfa Gartref wedi’i sicrhau sydd ar gael.

 

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

2021-22

Dyfed-Powys

36.443

36.212

36.993

40.967

44.497

Gwent

40.904

40.404

41.287

46.660

51.539

Gogledd Cymru

49.821

49.606

50.738

56.101

61.153

De Cymru

84.066

82.812

84.864

96.895

107.639

Cyfanswm

211.234

209.034

213.882

240.622

264.828

Tabl 3: Cyfanswm Cymorth Canolog (£m)

 

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

2021-22

Dyfed-Powys

49.313

49.313

50.348

54.116

57.528

Gwent

71.487

71.487

72.988

78.451

83.396

Gogledd Cymru

71.728

71.728

73.234

78.715

83.677

De Cymru

157.407

157.407

160.712

172.740

183.629

Cyfanswm

349.934

349.934

357.282

384.022

408.228