Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy'n cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i’r awdurdodau unedol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod drwy Setliadau Refeniw a Chyfalaf Dros Dro Llywodraeth Leol ar gyfer 2021-22 (y Setliad).

Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2021-22 yn cynyddu 3.8%, ar sail debyg, o’i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Yn 2021-22, bydd awdurdodau lleol yn cael £4.65 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol.

Yn ogystal, rwy'n cyhoeddi gwybodaeth am y grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2021-22.  Mae cyfanswm y rhain bron yn £1 biliwn ar gyfer refeniw ac yn fwy na £720 miliwn ar gyfer cyfalaf.  Mae'r Llywodraeth yn darparu'r gwerthoedd a'r dosbarthiadau dangosol hyn ar gyfer y grantiau nawr fel bod yr awdurdodau lleol yn gallu cynllunio eu cyllidebau'n effeithlon. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei diweddaru ymhellach ar gyfer y setliad terfynol.

Fel y nodwyd yn y gyllideb ddrafft ddoe, blaenoriaethau ariannu Llywodraeth Cymru o hyd yw gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol.  Er fy mod yn gwybod bod llywodraeth leol wedi bod yn wynebu pwysau sylweddol, yn enwedig yn deillio o’r pandemig COVID-19, rwy'n gobeithio y bydd y cynnydd hwn, sy’n adeiladu ar y gwelliant sylweddol a gafwyd yn setliad 2020-21, yn galluogi’r Awdurdodau i barhau i gefnogi a darparu gwasanaethau lleol hanfodol a gwerthfawr.  Wrth bennu'r Setliad cyffredinol ar y lefel hon mae'r Llywodraeth wedi ymateb i effaith negyddol y pandemig ar gasglu ardrethi annomestig.  Mae'r cynnydd sylfaenol o £176m yn y Setliad  yn adlewyrchu cynnydd mwy yn y Grant Cynnal Refeniw i wneud iawn am y gostyngiad mewn ardrethi annomestig. Mae hefyd yn cyfrif am effaith rhewi’r lluosydd ardrethi annomestig.  Ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau i'r Setliad, mae hyn yn cyfateb i gynnydd o £172 miliwn yng nghyllid y Setliad, o'i gymharu â 2020-21.

Esboniodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn glir yn y gyllideb ddrafft mai un o'r dewisiadau anodd yr ydym wedi'i hwynebu wrth bennu ein cynlluniau gwario ar gyfer y flwyddyn nesaf yw ein dull o ymdrin â thâl y sector cyhoeddus.  Y gwir yw na chawsom unrhyw arian ychwanegol drwy fformiwla Barnett i ddarparu ar gyfer dyfarniadau cyflog ar draws y sector cyhoeddus y flwyddyn nesaf o ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i rewi codiadau cyflog y sector cyhoeddus, ac eithrio'r GIG a'r gweithwyr ar y cyflogau isaf.  Felly, bydd angen cynnwys goblygiadau dyfarniadau cyflog yn 2021-22 o fewn gwaith cynllunio cyllidebau’r Awdurdodau yng ngoleuni'r Setliad hwn.  Mae ein penderfyniadau yn y gyllideb yn targedu cymaint o gymorth ag y gallwn i iechyd a llywodraeth leol i gynorthwyo â’r pwysau ar wasanaethau rheng flaen, gan ganolbwyntio ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.

Er na chawsom unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyflogau'r sector cyhoeddus rydym, wrth bennu dosbarthiad cyllid ar draws awdurdodau ar gyfer y Setliad, wedi cydnabod y penderfyniadau a wnaed ar gytundeb cyflog athrawon 2020/21 a'r ymrwymiad a wnaed gan lywodraeth leol i ariannu'r cytundeb hwn drwy gyfeirio cyllid at y rhan o’r fformiwla sy’n ymwneud ag ysgolion.  Rydym hefyd yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer ein cynigion ar gyfer meini prawf cymhwysedd newydd i gael prydau ysgol am ddim, o ystyried bod Llywodraeth y DU yn parhau i gyflwyno’r cynllun Credyd Cynhwysol.

Drwy'r Setliad hwn, rydym yn parhau i ddarparu £4.8 miliwn i awdurdodau allu darparu rhyddhad ardrethi ychwanegol yn ôl disgresiwn i fusnesau lleol ac eraill sy’n talu ardrethi er mwyn ymateb i faterion lleol penodol.

Yn unol â phwyslais y Llywodraeth ar fynd i'r afael ag effeithiau tlodi, rydym yn parhau’n ymrwymedig i amddiffyn aelwydydd sy'n agored i niwed a’r rhai ar incwm isel rhag unrhyw ostyngiad yn y cymorth o dan Gynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, er gwaethaf y diffyg yn y cyllid a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU ar ôl iddi ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor. Byddwn yn parhau i gynnal hawliau llawn o dan ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2021-22 ac unwaith eto rydym yn darparu £244 miliwn ar gyfer y Cynllun yn y Setliad i gydnabod hyn.

Ochr yn ochr â'r Setliad rydym yn parhau i ddarparu cyllid i gynorthwyo llywodraeth leol i hepgor ffioedd ar gyfer claddedigaethau plant.  Mae'r ymrwymiad cyffredin hwn yn sicrhau dull teg a chyson ledled Cymru.

Nid yw’n fwriad gennyf ddarparu ar gyfer cyllid gwaelodol eleni o ystyried y setliad uwch ar gyfer 2020-21 a'r dyraniadau arfaethedig yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw ar gyfer 2021-22. Yn unol â hynny, rwyf wedi dyrannu'r holl arian sydd ar gael ymlaen llaw.

Mae ystod eang o wasanaethau wrth gwrs wedi’u heffeithio'n sylweddol gan y pandemig.  Fel yr oedd datganiad y Gweinidog Cyllid ar y gyllideb yn ei egluro, rydym yn cydnabod yr angen i barhau i ddarparu cyllid i gefnogi eich ymateb chi ac eraill i'r pandemig.  Caiff hyn ei ystyried ar wahân ac nid yw'n rhan o'r Setliad hwn.

Mae'r Setliad hwn yn rhoi sylfaen sefydlog i Awdurdodau Lleol allu cynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.  Rwyf yn llwyr werthfawrogi'r pwysau y mae llywodraeth leol yn ei wynebu ac rwyf wedi ymrwymo i ddiogelu llywodraeth leol, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn.  Mae hwn cystal Setliad ag y gall y Llywodraeth ei gynnig ac yn un a ddylai helpu i leddfu rhywfaint ar y pwysau y mae’r Awdurdodau yn ei rag-weld.  Er na allaf warantu na fydd unrhyw newidiadau rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol, oherwydd yr ansicrwydd ariannol sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, nid wyf yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r fethodoleg na'r data sy'n sail i ddosbarthu’r Setliad hwn.

Ynghlwm wrth y datganiad hwn mae tabl cryno sy'n nodi'r dyraniadau Setliad fesul awdurdod. Pennwyd y dyraniadau gan ddefnyddio'r fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol.  O ganlyniad i'r fformiwla a’r data cysylltiedig, mae'r tabl yn dangos ystod y dyraniadau cyllid, o gynnydd o 2.0% dros setliad 2020-21 i gynnydd o 5.6%.

Bydd rhagor o fanylion am y Setliad yn cael eu hanfon at bob awdurdod lleol a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru:

https://llyw.cymru/setliad-refeniw-chyfalaf-llywodraeth-leol-2021-2022

Bydd y cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer 2021-22 yn parhau i gael ei bennu ar £198 miliwn.  Yn rhan o’r swm hwn mae £20 miliwn ar gyfer parhau â'r grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus, gan gynnwys cymorth ar gyfer teithio llesol; £54 miliwn o grant cyfalaf cyffredinol sylfaenol hanesyddol; a pharhau â £35 miliwn ychwanegol o grant cyfalaf cyffredinol, a gyhoeddwyd fel rhan o gyllidebau 2019-20 a 2020-21.  Bydd y £35 miliwn ychwanegol hwn yn galluogi Awdurdodau i ddechrau ymateb i'n cyd-flaenoriaeth o ddatgarboneiddio, gan gynnwys ar gyfer tai, a’r adferiad economaidd yn dilyn Covid-19.

Rydym wedi trafod, o'r blaen ein cydnabyddiaeth gyffredin o'r angen i fuddsoddi yn y cyflenwad tai.  Dylai buddsoddi mewn tai cymdeithasol leihau'r pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol ac ar wasanaethau digartrefedd.  Gall buddsoddi mewn tai hefyd gefnogi economi Cymru ac economïau lleol.  Gobeithio y gall y Setliad hwn - cyfalaf a refeniw - helpu Awdurdodau i gynyddu graddfa a chyflymder adeiladu tai ledled Cymru.

Rwy’n gwybod y bydd angen i Awdurdodau wneud dewisiadau wrth bennu eu cyllidebau.  Bydd angen iddynt ymgysylltu'n ystyrlon â'u cymunedau lleol wrth ystyried eu blaenoriaethau cyllidebol.  Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau, a’r dreth gyngor yn ei thro, a bydd angen i awdurdodau ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau y maent yn eu hwynebu, wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn dechrau'r ymgynghoriad ffurfiol saith wythnos ar y setliad llywodraeth leol dros dro.  Daw hyn i ben ar 9 Chwefror 2021.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Tabl Cryno

Setliad dros dro 2021-22 – cymharu Cyllid Allanol Cyfun (AEF) 2020-21 (wedi’i addasu ar gyfer trosglwyddiadau) ag AEF dros dro 2021-22, a dosbarthiad cyllid Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2020-21 (wedi’i ddosbarthu fel rhan o AEF) (£000)

 

Awdurdod unedol

AEF 2020-21

wedi’i addasu1

AEF dros dro 2021-22

% y newid o AEF 2020-21 wedi’i addasu

Safle

Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (o fewn yr AEF)

Ynys Môn

101,369

104,825

3.4%

18

5,186

Gwynedd

188,409

194,793

3.4%

19

8,541

Conwy

161,181

166,906

3.6%

17

9,138

Sir Ddinbych

153,089

158,632

3.6%

16

8,920

Sir y Fflint

199,267

206,778

3.8%

14

9,609

Wrecsam

184,569

188,856

2.3%

21

9,062

Powys

184,554

191,897

4.0%

8

8,775

Ceredigion

107,545

109,658

2.0%

22

5,122

Sir Penfro

172,502

179,387

4.0%

7

8,187

Sir Gaerfyrddin

274,355

284,820

3.8%

13

13,996

Abertawe

339,445

352,642

3.9%

10

19,264

Castell-nedd Port Talbot

227,198

236,680

4.2%

6

15,977

Pen-y-bont ar Ogwr

203,540

212,192

4.3%

5

13,088

Bro Morgannwg

160,455

168,316

4.9%

2

9,062

Rhondda Cynon Taf

389,403

404,375

3.8%

11

21,936

Merthyr Tudful

96,973

101,476

4.6%

3

5,595

Caerffili

283,708

292,367

3.1%

20

12,372

Blaenau Gwent

116,112

120,361

3.7%

15

8,067

Torfaen

140,308

146,340

4.3%

4

8,331

Sir Fynwy

97,673

101,483

3.9%

9

5,753

Casnewydd

228,000

240,796

5.6%

1

10,083

Caerdydd

469,913

487,913

3.8%

12

27,934

Pob awdurdod unedol

4,479,570

4,651,494

3.8%

 

244,000

  1. Sylwer: Efallai nad yw'r cyfanswm yn swm hollol gywir yn sgil talgrynnu.
  2. Trosglwyddiadau AEF 2020-21 wedi’u haddasu o £5.127m (prisiau 2020-21) i mewn i’r Setliad