Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae’r coronafeirws wedi cael effaith ar bob un ohonm ac mae pawb wedi gorfod gwneud newidiadau yn ein bywydau personol ac yn y gwaith – o ran y ffordd yr ydym yn byw, gweithio, teithio a chymdeithasu. 

Wrth inni barhau i ymteb i’r feirws, mae’n bwysig bod modd inni hefyd ystyried a dysgu o brofiadau’r chwe mis diwethaf.  Er ein bod wedi pwysleisio ar effaith y feirws ar iechyd a llesiant pobl, a’r effaith ar fusnesau unigol, sectorau, a’r economi ehangach, bu rhai newidiadau positif hefyd, ac rydym am adeiladu arnynt at y dyfodol. 

Yn ystod ton gyntaf y pandemig, gofynwyd i bawb oedd yn gallu gweithio o gartref i wneud hynny.  I rai, roedd hyn yn her gwirioneddol ac mae gennym wersi i’w dysgu ynghylch cymorth gwell ar gyfer iechyd meddwl, a dull mwy creadigol o fynd i’r afael â gofal plant, bod yn fwy arloesol wrth ddylunio tai, a ffyrdd newydd o roi seibiant i’r rhai sy’n gweld realaeth y gweithle newydd yn brofiad heriol.    

Ond i nifer o bobl eraill, bu gweithio o gartref yn brofiad positif, gan roi mwy o hyblygrwydd iddynt yn eu bywyd gwaith a chael gwared ar yr hyn allai fod yn daith ddrud ac anodd i leoliad prysur eu swyddfa. 

Wrth i nifer y bobl sy’n gweithi mewn swyddfeydd leihau, bu gostyngiad hefyd mewn tagfeydd traffig a’r defnydd o geir preifat, gan helpu i wella ansawdd yr aer. 

Mae gweithio o gartref hefyd wedi helpu i wella cynhyrchiant gan roi mwy o hyblygrwydd i’r rhai sy’n gweithio o gartref. 

Nid yw neges Llywodraeth y DU i bawb fynd yn ȏl i’r swyddfa yn un sy’n cael ei hail-adrodd yng Nghymru.   

Rydym am gadw manteision gweithio o gartref.  Rydym am i weithwyr gael mwy o gyfleoedd i weithio o gartref neu mewn swyddfa leol yn amlach, ble y mae’n gweithio iddynt hwy a’u cyflogwyr – nid llai o gyfleoedd.   

Fel rhan o’n gweledigaeth “Trawsnewid Trefi”, rydym hefyd am i drefi a chymunedau weld manteision y dull hwn o weithio, ble y gallai hyn greu cyfleoedd newydd ar gyfer adfywio a gweithgarwch economaidd.  Os ydym yn gwneud y patrymau gweithio hyn yn rhan o’n dyfodol, bydd yn rhoi y gallu inni feddwl eto am ddyluniad a chynllun nifer o’n canol trefi a’n stryd fawr.  Gallwn symud o fodel sy’n cael ei reoli gan fanwerthu i ystod mwy amrywiol o weithgareddau a chyfleoedd, gan roi platfform inni adfywio canol ein trefi. 

Wrth gwrs, i nifer ohonom, mae’r cyfyngiadau symud wedi golygu ychydig iawn o hyblygrwydd o gwbl.  Rydym yn ddiolchgar i’r rhai hynny yn ein diwydiannau gwasanaethu, gweithgynhyrchu a logisteg sydd wedi parhau i weithio drwy’r pandemig, gan gynnwys ein gweithwyr allweddol, ble nad yw gweithio o gartref yn debygol o fod yn opsiwn.  Ond yma hefyd rydym angen arloesi a newid.  Mae technoleg newydd a gwasanaethau digidol yn rhoi’r cyfle inni am waith teg, ac mae’n bwysig ein bod yn cymryd y cyfle hwnnw i ail-gynllunio gweithleoedd gan ystyried y gweithlu. 

Rydym yn credu y bydd nifer o bobl am barhau I weithio o bell yn yr hirdymor, a gallai hyn fod yn newid yn y ffordd yr ydym yn gweithio yng Nghymru, ond rydym hefyd yn ymwybodol o anghenion y rhai hynny nad yw gweithio o gartref, am amrywiol resymau, yn opsiwn ymarferol.   

Byddwn yn edrych ar sut y gellid creu rhwydwaith o ganolfannau gweithio o bell o fewn y gymuned, o fewn pellter cerdded neu feicio i gartrefi nifer o bobl mewn cymunedau ledled Cymru, gan ddefnyddio ein hymrwymiad i’r egwyddor Canol Trefi yn Gyntaf.  Gellid defnyddio’r canolfannau hyn gan weithwyr y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector a helpu i annog partneriaethau newydd i ddatblygu rhwng diwydiannau.  Caiff y gwaith hwn ei arwain gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Mae gennym gyfle i wneud Cymru yn wlad ble y mae gweithio yn fwy hyblyg yn rhan o sut y mae ein heconomi yn gweithio, gan sefydlu diwylliant yn y gweithle sy’n rhoi gwerth ac yn cefnogi gweithio o bell.  Ein nod yw gweld oddeutu 30% o’r gweithle yn gweithio o bell yn rheolaidd.

Mewn partneriaeth â’n rhanddeiliaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, byddwn yn cefnogi symudiad tuag at fwy o’r gweithle yn gweithio o bell; symudiad sy’n cael ei lywio gan ein hegwyddorion gweithio teg, a ble y bydd llais y gweithiwr yn chwarae rhan amlwg wrth lunio amgylcheddau gweithio. 

Ein nod yw model hybrid yn y gweithle, ble y gall y staff weithio yn y swyddfa ac yn y cartref, neu mewn lleoliad hyb.  Trwy wneud hyn, gallwn gyfrannu at weithredu yn erbyn y newid yn yr hinsawdd drwy leihau tagfeydd a llygredd, ac ar yr un pryd gynyddu cynhyrchiant a hyrwyddo manteision cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i wethwyr a chyflogwyr. 

Rhannu’r dudalen hon