Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Bydd y BFI a BAFTA Albert yn cyhoeddi heddiw bod Cymru wedi cael ei dewis i roi ar waith yr argymhellion a gyhoeddwyd yng Nghynllun Trawsnewid Screen New Deal, ynghylch cynaliadwyedd amgylcheddol cynyrchiadau sgrin. Hynny yn dilyn cais llwyddiannus gan Cymru Greadigol, a’u partneriaid Clwstwr a Ffilm Cymru Wales, mewn cystadleuaeth ar lefel y DU gyfan.
Mae’r fenter yn dilyn adroddiad Screen New Deal yn 2020 ar effaith carbon y sector cynhyrchu ffilmiau, a oedd yn cynnig ffordd ymarferol i ddramâu teledu a ffilmiau a chynyrchiadau stiwdio i weithio at ddyfodol di-garbon a di-wastraff, yn unol â thargedau sero net sy’n seiliedig ar yr wyddoniaeth.
Noddwyd yr adroddiad Screen New Deal gan Gronfa Ymchwil ac Ystadegau Loteri Genedlaethol y BFI a chafodd ei gynhyrchu gan y cwmni peirianyddol a dylunio rhyngwladol blaenllaw Arup gyda chymorth BAFTA Albert, y corff mwyaf blaenllaw yn y diwydiant sgrin dros gynaliadwyedd amgylcheddol, a’r BFI.
Mae Cronfa Ymchwil ac Ystadegau’r BFI bellach wedi neilltuo hyd at £80,000 o arian y Loteri genedlaethol ar gyfer prosiect y Cynllun Trawsnewid fel cam nesa’r gwaith.
Trwy Gynllun Trawsnewid y Screen New Deal, mae’r BFI, BAFTA Albert ac Arup yn gweithio gyda Cymru Greadigol, Ffilm Cymru Wales a Clwstwr i gasglu data a llunio mapiau lleol. Bydd hynny’n dangos ble mae’r gwasanaethau ffilm a dramâu yn yr ardal, yn nodi ble mae yna fylchau yn y gwasanaeth ac yn helpu i greu cynllun trawsnewid ar sail lle i ddatgarboneiddio cynyrchiadau ffilm a theledu.
Yn y 12 mis cyntaf, canolbwyntir ar gasglu data ac yna dros y chwe mis dilynol, eir ati i ddatblygu’r cynllun trawsnewid. Caiff y data a’r gwersi a gesglir ac a ddysgir wrth fapio a chreu’r cynllun eu rhannu â chlystyrau sgrin eraill yn y DU sy’n anelu at fod yn ddi-garbon ac yn ddi-wastraff, hynny i gefnogi’r sector cynhyrchu yn ehangach. Bydd y cynllun trawsnewid yn para 18 mis, a’i gwblhau erbyn canol 2023.
Fel rhan o’n Rhaglen Lywodraethu, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi gweithgareddau fydd yn lleihau ein hôl troed carbon ar draws yr economi, ac rydyn ni’n disgwyl mlaen at weithio gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant sgrin ledled Cymru, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu, darlledwyr sector cyhoeddus, stiwdios a’r gadwyn gyflenwi. Bydd y data a gesglir yn amhrisiadwy i’n helpu i bennu llwybr tuag at fod yn ddi-garbon ac yn ddi-wastraff ac i sicrhau dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i’r diwydiant yma yng Nghymru a hefyd yng ngweddill y DU.