Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Lansiwyd Rhwydwaith Trawma De Cymru ar 14 Medi 2020 er mwyn sicrhau gofal i oedolion a phlant yn ne a gorllewin Cymru a de Powys a oedd wedi dioddef trawma mawr.
Gellir diffinio trawma mawr fel anafiadau lluosog a difrifol sy’n arwain at anabledd neu farwolaeth. Gallant gynnwys anafiadau difrifol i’r pen, anafiadau lluosog a achosir gan ddamweiniau traffig ar y ffyrdd, damweiniau diwydiannol, cwympiadau, digwyddiadau damweiniau torfol, ac anafiadau cyllyll a gynnau. Trawma mawr yw’r prif achos o farwolaethau ymhlith pobl o dan 45 oed, a hefyd yn achos sylweddol o salwch neu iechyd gwael tymor byr a hirdymor.
Grŵp o ysbytai, gwasanaethau brys a gwasanaethau adsefydlu yw rhwydwaith trawma sy'n cydweithio er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau posibl ar gyfer trin anafiadau sy'n peryglu bywyd, neu anafiadau a allai newid bywyd am byth.
Fel arfer, mae’r rhwydweithiau yn cynnwys canolfan trawma mawr, unedau trawma, ysbytai brys lleol a chyfleusterau trawma gwledig, sy’n cael eu cefnogi gan ysbytai eraill yn yr ardal. Ceir tystiolaeth gryf bod rhwydwaith trawma mawr yn achub bywydau ac yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion, gan gynnwys adsefydlu mor agos â phosibl at y cartref.
Roedd lansiad Rhwydwaith Trawma De Cymru a’r ganolfan trawma mawr ar gyfer oedolion a phlant yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn ddigwyddiad arwyddocaol i’r GIG yn ne a gorllewin Cymru. Tan y llynedd, nid oedd gan y GIG yn ne a gorllewin Cymru ei drefniadau trawma mawr ei hun.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhan o Rwydwaith Trawma Gogledd Orllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd Cymru.
Mae’r broses o sefydlu Rhwydwaith Trawma De Cymru yn benllanw nifer o flynyddoedd o waith ymroddedig a chydweithio ar draws nifer o feysydd gwasanaeth.
Caiff y cleifion sydd wedi’u hanafu’n fwyaf difrifol eu cludo i’r ganolfan trawma mawr. Yr uned 14 gwely yn Ysbyty Athrofaol Cymru yw’r cyntaf o’i math yng Nghymru. Mae’r uned yn cydweithio’n agos ag Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Mae nifer o gleifion sydd wedi dioddef trawma yn parhau i gael triniaeth yn eu hysbytai lleol. Mae’r byrddau iechyd wedi penodi ymarferwyr trawma mawr, cydgysylltwyr adsefydlu, a sicrhau cefnogaeth gan ymgynghorwyr meddyginiaeth adsefydlu. Mae hyn wedi arwain at welliannau i brofiadau a chanlyniadau cleifion, yn ogystal ag i’r rhai hynny sy’n dychwelyd adref yn dilyn gofal arbenigol yn yr uned drawma mawr.
Blwyddyn yn ddiweddarach, mae Rhwydwaith Trawma De Cymru wedi trin mwy na 1,330 o bobl:
- Roedd 10% yn blant, a 61% yn oedolion o dan 65 oed
- Yr oedran canolrif oedd 48 oed ac roedd 67% yn ddynion
- Roedd y mwyafrif o anafiadau trawma yn sgil damweiniau ceir a chwympiadau
- Cafodd 80% o bobl gefnogaeth adsefydlu yn y gymuned
Mae lansiad a chyflawniad gwasanaeth trawma de Cymru yn ystod y pandemig wedi bod yn heriol tu hwnt. Fodd bynnag, mae’r ystadegau yn dangos rhai o’r buddiannau cynnar sy’n cael eu gwireddu. Maent hefyd yn gosod sylfaen ar gyfer y llwyddiant y bydd yr holl bartneriaid yn ei feithrin dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.