Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers dros flwyddyn, mae gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi dinistrio bywydau ar draws y rhanbarth, ac mae miliynau wedi ffoi o'u cartrefi i chwilio am ddiogelwch. Ar hyn o bryd, mae miliynau o bobl ledled Gaza, Libanus a'r rhanbarth ehangach angen bwyd, lloches a gofal meddygol ar frys.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Pwyllgor Argyfyngau Brys DEC Cymru i helpu i gydlynu ymdrechion codi arian yng Nghymru. Mae'r DEC yn dwyn ynghyd sefydliadau blaenllaw yn y DU i godi arian ar gyfer argyfyngau tramor a chydlynu ymateb dyngarol effeithiol, gan sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf ei angen yn gyflym ac yn y modd mwyaf cost-effeithiol posibl. Ym mis Hydref, lansiodd DEC eu Hapêl Ddyngarol y Dwyrain Canol, a rhoddodd Llywodraeth Cymru £100,000 iddi.

Mae elusennau DEC yn obeithiol y bydd y cadoediad yn Gaza – a ddechreuodd ar 19 Ionawr – yn rhoi cyfle hanfodol iddynt hwy a'u partneriaid lleol gynyddu eu gwaith yn darparu bwyd, lloches, dŵr a gofal meddygol y mae eu hangen ar frys. Yn Gaza, mae 1.8 miliwn o bobl yn wynebu prinder bwyd difrifol, gyda phrisiau mewn marchnadoedd lleol yn codi i'r entrychion wrth i gyflenwadau fynd yn fwyfwy prin. Mae tywydd oer a glaw yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi gwaethygu'r amodau ymhellach mewn gwersylloedd, gyda phebyll yn gollwng a'r tymereddau oer yn arwain at salwch yng nghanol prinder enbyd o ofal meddygol a diffyg maeth helaeth.  

Bydd llwybrau newydd ar gyfer darparu cymorth a'r cyfle i ddefnyddio'r llwybrau presennol yn ehangach oherwydd y cadoediad yn caniatáu i elusennau DEC a'u partneriaid lleol gynyddu faint o fwyd a chymorth brys arall y gallant ei ddarparu i Gaza, gan gyrraedd mwy o deuluoedd mewn angen.

Am y rheswm hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhodd ychwanegol o £100,000 i Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol DEC.