Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 31 Mawrth, lansiais ymgynghoriad ynghylch newidiadau yr oeddem am eu gwneud i Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymwyso) (Cymru) 2010. Mae’r rheoliadau yn darparu mesurau diogelu pwysig i leihau’r risg o niwed i blant drwy atal darparwyr gofal plant cofrestredig anaddas, neu unigolion anaddas sy’n dymuno cofrestru, rhag gofalu am blant.  

Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cefnogi cynnwys troseddau ychwanegol ac elfennau o’r gyfraith a ddiweddarwyd ers i reoliadau 2010 gael eu gwneud.

Yn gyffredinol croesawyd y newidiadau polisi a awgrymwyd fel rhan o’r ymgynghoriad hefyd.

Roedd y rhain yn ymwneud â chael gwared ar y ddarpariaeth sy’n anghymwyso unigolion ar sail cysylltiad, hynny yw pobl sydd wedi’u cofrestru (neu sy’n dymuno cofrestru) i ddarparu gofal plant ar safle nad yw’n gartref iddynt (gofal dydd a gwarchodwyr plant sy’n gweithio ar safle nad yw’n gartref iddynt) am eu bod yn byw gyda rhywun sydd wedi’i anghymwyso o dan y rheoliadau.

Byddai’r newidiadau hyn i reoliadau 2022 yn golygu bod pobl a oedd wedi’u hanghymwyso rhag bod yn ddarparwyr gofal plant cofrestredig, er nad oedd bai arnyn nhw’n bersonol, bellach yn gallu cofrestru i ddarparu gofal plant. Cynigiwyd hefyd gael gwared ar rai anghysonderau yn y ddeddfwriaeth i sicrhau bod pobl a allai fod wedi bod yn destun gorchmynion gofal neu oruchwylio yn y gorffennol, ynghyd â gofalwyr maeth, gofalwyr sy’n berthnasau a phobl sydd wedi mabwysiadu, yn cael eu trin yn deg.

Mae’r crynodeb o’r ymatebion ar gael yma: https://llyw.cymru/rheoliadau-gwarchod-plant-gofal-dydd-anghymhwyso-cymru-drafft-2022

Mae’r newidiadau hyn yn gam cadarnhaol ymlaen, gan ganiatáu i fwy o bobl gofrestru i ddarparu gwasanaethau gofal plant yng Nghymru.

Rwy’n bwriadu gosod y rheoliadau diwygiedig hyn yn yr hydref. Byddaf hefyd yn darparu canllawiau i ategu rheoliadau 2022 er mwyn ei gwneud yn glir beth yw’r gofynion rheoleiddiol y mae angen eu bodloni i gydymffurfio â’r gyfraith.