Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ddechrau'r pandemig, er mwyn diogelu aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas, lluniwyd rhestr o bobl yr oedd angen iddynt gymryd gofal ychwanegol a gwarchod eu hunain rhag y coronafeirws. Rhannwyd y rhestr hon ag awdurdodau lleol, archfarchnadoedd, cwmnïau dŵr a'r Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i alluogi pobl i aros gartref.

Rydym bellach yn gwybod llawer mwy am y feirws ac mae gennym raglen frechu hynod lwyddiannus. Mae hyn yn golygu bod nifer y bobl y mae angen iddynt fod yn eithriadol o ofalus wedi gostwng yn sylweddol. Mae gennym ddyletswydd o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) i adolygu'r sefyllfa o ran gwybodaeth yr ydym yn ei rhannu, ac yn sgil y newid hwn yn y cyd-destun byddwn yn rhoi’r gorau i rannu’r rhestr o gleifion sy’n gwarchod gyda'r partneriaid hyn.

Ym mis Mawrth 2020, roeddem yn gwybod llawer llai am SARS-CoV-2 a sut yr oedd yn cael ei drosglwyddo o berson i berson nag yr ydym heddiw. Ledled y byd, rydym wedi parhau i ddysgu mwy am y feirws – a sut i drin a rheoli heintiadau – gyda phob wythnos a mis sydd wedi mynd heibio.

Yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, fe wnaethom gynghori miloedd o bobl, a oedd yn wynebu'r risg fwyaf o ddal y feirws ac o gael niwed difrifol yn sgil hynny, i warchod eu hunain. Trefnwyd gwahanol fathau o gymorth i'w helpu i wneud hynny – er enghraifft dosbarthu bwyd am ddim bob wythnos a helpu pobl i gael gafael ar feddyginiaethau a gwasanaethau eraill. Roedd hyn yn cynnwys darparu dŵr yfed mewn amgylchiadau lle’r oedd problem â’r cyflenwad dŵr.

Gwnaethom hyn drwy rannu manylion y bobl ar y Rhestr o Gleifion a Warchodir gydag awdurdodau lleol, archfarchnadoedd, cwmnïau dŵr a’r Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol. Cafodd hyn ei wneud ar sail ‘tasg gyhoeddus’ o dan GDPR y DU am fod hynny’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn y bobl y credid eu bod yn wynebu’r risg fwyaf ar y pryd.

Mae’r sefyllfa yn wahanol iawn erbyn hyn. Daeth y cyngor i ddilyn mesurau gwarchod i ben am y tro ar 1 Ebrill 2021 ac mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi dweud nad yw’n bwriadu gofyn i bobl warchod eu hunain eto.

Mae capasiti’r holl brif fanwerthwyr bwyd ar gyfer ar gyfer danfon nwyddau i gartrefi wedi cynyddu’n sylweddol ac rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl ar y Rhestr o Gleifion a Warchodir sy’n defnyddio slotiau siopa blaenoriaeth. Mae manwerthwyr wedi ein sicrhau bod y capasiti ganddynt i ateb y galw fel rhan o’u busnes arferol. Rydym hefyd wedi ymgynghori ag awdurdodau lleol ac nid oes angen y data hyn arnynt mwyach i ddarparu gwasanaethau.

Mae ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n gwneud rhywun yn agored iawn i effeithiau haint coronafeirws wedi datblygu, wrth i driniaethau newydd gael eu datblygu ac wrth i’r rhaglen frechu fynd rhagddi’n llwyddiannus.

Er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau o dan GDPR y DU, rydym wedi bod yn adolygu’r data a gedwir fel rhan o’r rhaglen warchod yn rheolaidd. Yn dilyn ystyriaethau diweddar, rwyf wedi cytuno y byddwn yn rhoi’r gorau i rannu’r Rhestr o Gleifion a Warchodir gyda phartneriaid megis awdurdodau lleol, archfarchnadoedd a chwmnïau dŵr.

Ac eithrio’r niferoedd bach o bobl sy’n defnyddio slotiau siopa blaenoriaeth ar hyn o bryd, a fydd yn awr yn cael eu symud i drefniadau danfon rheolaidd gan fanwerthwyr bwyd, ni fydd y newid hwn i rannu data yn gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i’r unigolion ar y Rhestr o Gleifion a Warchodir. Felly, ni fydd y Prif Swyddog Meddygol yn anfon llythyr am y newid hwn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw a diweddaru’r rhestr gyfredol am hyd at chwe mis, pe bai ei hangen, a bydd data ystadegol yn ymwneud â’r rhestr yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol at ddibenion ymchwil a gwerthuso.