Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan flaenllaw i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn ogystal â’n gwasanaeth iechyd. Mae wedi bod yn ganolog i’n hymateb i bandemig y coronafeirws.
Ym mis Ebrill, gwnaethom ryddhau £40m i helpu darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i fodloni’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r pandemig. Heddiw, rydym yn cyhoeddi £22.7m arall.
Rhoddwyd y £40m i awdurdodau lleol i helpu'r sector gofal cymdeithasol i oedolion gyda chostau cynyddol, gan gynnwys costau staffio, mwy o waith rheoli haint, prisiau bwyd uwch a mwy o ddefnydd o TGCh i gadw teuluoedd mewn cysylltiad â'u hanwyliaid pan nad oedd modd iddynt ymweld â’i gilydd.
Mae’r cyllid hwn wedi rhoi cymorth gwerthfawr i'r sector, ond mae llawer o ddarparwyr yn parhau i wynebu pwysau ariannol, yn enwedig cartrefi gofal, sy’n wynebu’r her ychwanegol mewn perthynas â cholli incwm o ganlyniad i leoedd gwag a’r angen i gyfyngu ar nifer y preswylwyr newydd a dderbynnir mewn rhai achosion er mwyn rheoli lledaeniad y feirws.
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r sector i lunio pecyn cymorth pellach ac rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn rhoi £22.7m arall i awdurdodau lleol i'w galluogi i barhau i helpu darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion gyda'r costau ychwanegol parhaus hyn. Bydd y cyllid hwn ar gael ar unwaith hyd at ddiwedd mis Medi, pan fyddwn yn adolygu'r sefyllfa unwaith eto.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd yr aelodau eisiau i ni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddem yn falch o wneud hynny.