Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o becyn o fesurau ar gyfer rheoli Covid-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru ac ar gyfer diogelu’r preswylwyr a’r staff, fe aethom ni ati ar 15 Mehefin 2020 i gyflwyno polisi o gynnal profion asymptomatig wythnosol ar y staff.  Ers hynny, rydym wedi bod yn monitro’r polisi’n agos drwy ddadansoddi'r data a’r cyngor gwyddonol sy’n esblygu, ac fe wnaethom ni ymestyn y rhaglen brofi am bedair wythnos hyd at 10 Awst ac am wyth wythnos arall hyd at 4 Hydref.

Fel sail ar gyfer y polisi ar brofi mewn cartrefi gofal yn y dyfodol, rydym wedi mynd ati ers dechrau mis Hydref i bwyso a mesur y polisi gyda’r Prif Swyddog Meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn gwerthuso’r hyn mae’r data yn ei ddangos i ni. Daw mewnbwn hefyd gan bartneriaid yn y sector cartrefi gofal, y Byrddau Iechyd Lleol, llywodraeth leol ac undebau llafur.  Wrth i ni nesáu at fisoedd yr hydref a’r gaeaf, mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i gael polisi clir ar ddiogelu preswylwyr cartrefi gofal drwy brofi staff asymptomatig a bod y polisi hwnnw yn:

  • Seiliedig ar gyngor gwyddonol, cyngor meddygol a chyngor yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd, a’i fod yn gyson â’r polisi profion a’r pholisi gofal cymdeithasol yn ehangach.
  • Rhan o ddull cydlynol o reoli heintiau mewn cartrefi gofal, sy’n ddull y mae’r holl gartrefi gofal a phartneriaid yn ei ddeall ac yn gallu ymrwymo iddo.
  • Darparu sicrwydd fod ein dull o ymdrin â phrofi yn un clir ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a hynny gyda’r hyblygrwydd priodol i sicrhau bod y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn lleol, i ymateb i’r newidiadau yn achosion a throsglwyddiad Covid-19 yn y gymuned, yn eistedd o fewn fframwaith y cytunir arno yn genedlaethol.

Rydym bod yn wedi ystyried y data a’r adborth a gafwyd drwy ymgysylltu â phartneriaid yn y sector cartref gofal, y Byrddau Iechyd Lleol, yr awdurdodau lleol a’r undebau llafur.  Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig parhau i ddarparu rhywfaint o hyblygrwydd ynghylch pa mor aml i brofi, a hynny i ymateb i'r achosion a’r trosglwyddiad yn y cymunedau lleol yn ehangach.  Felly, rwyf wedi penderfynu galluogi'r partneriaid statudol i benderfynu a ddylid profi bob wythnos ynteu bob pythefnos mewn cartrefi gofal yn eu hardaloedd lleol, a hynny drwy ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol ar sail y data a’r wybodaeth leol.

Mae’n bwysig sicrhau bod y penderfyniadau yn rhai sy’n seiliedig ar wybodaeth leol yn ogystal â data yn ymwneud ag achosion a throsglwyddiad yn yr ardal leol. Mae angen cael dealltwriaeth glir o ddeinameg y trosglwyddiad lleol, a bydd gweithwyr proffesiynol lleol mewn sefyllfa dda i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth gan ddefnyddio eu hadnabyddiaeth o ble mae’r achosion wedi’u gwreiddio a gyda beth y maent yn gysylltiedig. Lle caiff nifer yr achosion cymunedol eu categoreiddio fel bod yn uchel, yn unol âImage removed.’r trothwyon y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, disgwylir y bydd profion i staff asymptomatig yn cael eu cynnal yn wythnosol. Mae’n hanfodol fod penderfyniadau ynghylch pa mor aml y dylid profi yn cael eu gwneud ar sail gyson a’n bod ninnau’n cael gwybod ymlaen llaw am y penderfyniadau a gaiff eu cyhoeddi. Mae’n hanfodol hefyd eu bod yn cael eu cyfathrebu mewn modd clir ac amserol i gartrefi gofal a sefydliadau cynrychioliadol yn y sector.  Byddwn yn ysgrifennu at bartneriaid statudol ynglŷn â’r trefniadau llywodraethu sy’n cael eu sefydlu gennym.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i gadarnhau y bydd y profion asymptomatig ar staff cartrefi gofal yn cael eu cynnal nawr drwy Borthol Sefydliadau’r DU a’r labordai Goleudy.  Fe wnaethom ni gyflwyno rhywfaint o hyblygrwydd i'r rhaglen ym mis Medi, i ganiatáu profi drwy labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymateb i broblemau capasiti gyda’r labordai Goleudy. Mae’r problemau hynny wrthi’n cael eu trin ac mae’n bwysig i labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru gael eu defnyddio at ddibenion eraill, gan gynnwys profion symptomatig ac ymateb i ddigwyddiadau ac achosion o Covid-19.

Byddwn ni'n parhau i fonitro’r rhaglen yn agos, ynghyd â’r trefniadau newydd ar gyfer penderfynu a ddylid profi bob wythnos ynteu bob pythefnos, a hynny drwy barhau i ymgysylltu’n agos â’r sector cartrefi gofal a’r partneriaid statudol tan ddiwedd mis Rhagfyr.