Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg
Wrth inni ddod allan o'r pandemig dros y misoedd nesaf, a gweld drysau a ffiniau'n ailagor, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn genedl allblyg, sy'n croesawu'r rhai sy'n dod i astudio neu weithio yma, ac sy’n manteisio ar y cyfle i groesawu partneriaethau o bob rhan o Ewrop a'r byd. Mae ein myfyrwyr a'n staff yn llysgenhadon hanfodol sy’n hyrwyddo'r neges honno dramor, ac mae eu haddysg a'u hymwybyddiaeth ddiwylliannol yn elwa mewn sawl ffordd o ganlyniad i dreulio amser dramor – yn yr un modd ag y mae ein darparwyr addysg yn elwa ar y profiad o ddarparu addysg i fyfyrwyr a staff sy'n ymweld â Chymru i astudio ac addysgu.
Am y rheswm hwnnw, cawsom ein siomi'n fawr gan benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â manteisio ar y cyfle a gynigiwyd gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) i gymryd rhan yn Rhaglen Erasmus+ ar gyfer y cyfnod 2021 - 2027.
Ers cyhoeddi'r penderfyniad hwnnw, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i ymchwilio i ddulliau amgen i gryfhau'r partneriaethau dysgu rhyngwladol presennol a datblygu rhai newydd – gan sicrhau bod y dulliau hynny'n seiliedig ar yr egwyddor o ddwyochredd a pharch ar y ddwy ochr.
Felly, mae'n bleser gennym gyhoeddi heddiw bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol drwy lansio Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i Gymru ar gyfer Dysgu. Bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr, pobl ifanc, addysgwyr a staff o flwyddyn academaidd 2022/23 tan 2027, yn sgil buddsoddiad o £65m.
Ernes ar gyfer dyfodol ein pobl ifanc yw hon, er mwyn cynnig cyfleoedd i bawb, o bob cefndir. Mae sicrhau'r cyfleoedd hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun yr anawsterau a brofir gan bobl ifanc a dysgwyr ledled Cymru o ganlyniad i'r pandemig.
Bydd y Rhaglen yn creu ystod eang o gyfleoedd cyfnewid addysgol rhyngwladol sy'n cynnwys y gallu i symud yn gorfforol rhwng y ddau sefydliad a phartneriaethau strategol. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl fanteision y mae ein dysgwyr a'n staff wedi'u mwynhau yn y gorffennol o Erasmus+ yn parhau i fod ar gael yn y dyfodol – ac yn mynd ymhellach, i ddatblygu cyfleoedd newydd. Bydd pwyslais cryf ar gefnogi pob lleoliad addysgol, gan gynnwys sefydliadau gwaith ieuenctid, ac ar gefnogi dysgwyr a staff. Un o egwyddorion sylfaenol y Rhaglen fydd yr egwyddor o ddwyochredd rhwng sefydliadau Cymru a'r rhai tramor, yn Ewrop a thu hwnt.
Bydd y gwaith manwl i gynllunio a chyflwyno'r Rhaglen yn cael ei wneud gan y sefydliad sy'n llywio'r rhaglen, sef Prifysgol Caerdydd – gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Cynghori sy'n cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol. Mae hon yn dasg gymhleth a heriol yn ogystal ag un gyffrous, ac rydym yn ddiolchgar i'r Is-Ganghellor, yr Athro Riordan a'r Brifysgol am gytuno i arwain y gwaith hwn.
I grynhoi, bydd y Rhaglen:
- yn galluogi cyfleoedd cyfnewid dwyochrog (boed yn seiliedig ar symud yn gorfforol rhwng y ddau sefydliad neu gydweithrediad o bell) rhwng sefydliadau addysgol a hyfforddi yn ogystal â lleoliadau gwaith ieuenctid yng Nghymru ac yn rhyngwladol;
- yn cefnogi, cyn belled ag y bo modd, yr ystod gyfan o weithgareddau sydd wedi bod ar gael i ddysgwyr yng Nghymru o dan raglen Erasmus+ yr UE, 2014 - 2020;
- yn adeiladu ar lwyddiant Cymru Fyd-eang wrth ddatblygu cysylltiadau â gwledydd sy'n cael blaenoriaeth ledled y byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Fietnam ac India, a chefnogi ystod uchelgeisiol o ysgoloriaethau a fydd yn denu'r myfyrwyr gorau a disgleiriaf o bob cwr o'r byd i astudio yng Nghymru;
- yn sicrhau bod cyfleoedd ar gael i'r ystod ehangaf o ddysgwyr a phobl ifanc, gan gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a nodweddion gwarchodedig;
- yn cynnwys hyblygrwydd ychwanegol, yn arbennig o ran caniatáu cyfleoedd cyfnewid byrrach sy'n cynnwys addysg uwch;
- yn cefnogi'r gwaith o feithrin gallu er mwyn hwyluso cyfranogiad eang yn y Rhaglen;
- yn cefnogi cyfleoedd cyfnewid arbrofol, o bosibl, er mwyn cyd-drefnu partneriaethau ymchwil rhyngwladol;
- yn cydweddu'n agos â'n Strategaeth Ryngwladol.
Mae cefnogi'r gallu i symud rhwng sefydliadau mewn gwahanol wledydd yn flaenoriaeth i Gymru o ystyried y dystiolaeth fod hynny yn sicrhau manteision academaidd, personol, gyrfaol a chyflogadwyedd i'r rheini sy'n cymryd rhan, yn ogystal â manteision economaidd ehangach cyfleoedd cyfnewid rhyngwladol. Bydd y gallu i symud rhwng sefydliadau mewn gwahanol wledydd a chyfleoedd cyfnewid rhyngwladol hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod cydweithio â sefydliadau ledled Ewrop a thu hwnt yn gallu parhau a ffynnu er gwaethaf yr effaith andwyol Brexit yn ystod y blynyddoedd diwethaf, penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chymryd rhan yn Erasmus+, a phandemig COVID-19.
Mae treulio amser yn astudio, yn gwirfoddoli neu ar leoliadau gwaith dramor yn ehangu gorwelion, yn gwella sgiliau allweddol ac yn dod â manteision i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pobl ifanc o bob cwr o’n gwlad – ac o bob cefndir – yn elwa ar y cyfleoedd hyn. Drwy fuddsoddi yn y Rhaglen hon yn awr, rydym yn buddsoddi mewn dyfodol cryf, rhyngwladol a llewyrchus i holl bobl ifanc Cymru.