Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pan gyhoeddais y Cynllun Diogelu'r Gaeaf ym mis Medi, nodais yn glir fy mod yn disgwyl i'r gaeaf hwn fod yn un o'r rhai mwyaf heriol inni eu gweld ar draws y system iechyd a gofal. Mae’r sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol wedi rhoi cynlluniau ar waith ac maent wedi bod yn cymryd camau brys i sicrhau eu bod yn barod i ymateb i ofynion COVID-19, i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac i baratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf.

Er gwaethaf yr ymdrechion gorau hynny, mae cyfradd trosglwyddo COVID-19 yn parhau i godi ar gyfradd frawychus ar draws cymunedau yng Nghymru. Wrth i drosglwyddiad godi, mae'n dod yn fwyfwy anodd cynnal y cydbwysedd bregus rhwng darparu gofal i'r rhai sydd angen mynd i'r ysbyty oherwydd COVID-19 a darparu gwasanaethau hanfodol nad ydynt yn ymwneud â COVID. Erbyn hyn mae mwy o gleifion nag erioed o’r blaen yn cael eu trin â COVID-19, neu'n gwella o COVID-19 yn ein hysbytai.

Bydd yn rhaid gwneud dewisiadau anodd wrth i’n gwasanaethau a'n gweithlu ddechrau cael eu hymestyn y tu hwnt i'r lefelau y byddem fel arfer yn eu gweld ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Bydd angen i sefydliadau'r GIG gymryd camau i sicrhau eu bod yn barod i wynebu lefelau cynyddol o COVID-19 yn ystod yr wythnosau nesaf ac yn y cyfnod cyn y Nadolig. Fy mlaenoriaeth o hyd yw achub bywydau a lleihau niwed.

Rydym yn dechrau gweld pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau gofal heb ei drefnu. Mae GIG Cymru yn dal i fod yma i chi pan ac os y byddwch ei angen, ond mae'n dechrau teimlo pwysau'r galw arno ar yr adeg anodd hon.

Wrth inni gyrraedd y gaeaf, mae'n hanfodol bod ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn barod. Yr wyf yn gadarn yn fy ymrwymiad i gefnogi sefydliadau'r GIG i wneud penderfyniadau a gweithredu’n lleol i barhau i ddarparu gofal a chymorth i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Rwy'n dewis gweithredu nawr cyn inni weld cynnydd cyson yn y galw dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Rhagwelir y bydd mwy o bobl angen lefelau uchel o ofal dros yr wythnosau nesaf wrth inni weld lefelau uwch o COVID-19 yn ein cymunedau, ochr yn ochr â phwysau amlwg ar y system yn ystod y cyfnod mwyaf heriol hwn i'r GIG.

Rwyf wedi cael cyngor gan gydweithwyr proffesiynol, gan gynnwys Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr Meddygol y GIG sydd wedi llywio fy mhenderfyniad i weithredu nawr i sicrhau y gellir gwneud ein paratoadau mewn ffordd bwyllog ac wedi’i chynllunio. Felly, rwyf wedi cymeradwyo fframwaith o gamau gweithredu, y gall sefydliadau lleol y GIG ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Gweler yr atodiad amgaeedig.

Rydym, gyda'n gilydd, yn gynyddol bryderus am y risg bosibl o niwed i gleifion sydd angen mynediad at wasanaethau gofal iechyd hanfodol. Bwriad y fframwaith o gamau gweithredu i'w ystyried yn lleol gan sefydliadau'r GIG yw lliniaru'r risg bosibl o niwed yn y system drwy wneud y canlynol:

  • gwneud y defnydd gorau o'r gweithlu a'i ddefnydd;
  • sicrhau bod pobl ond yn cael mynediad at ofal 999 neu ysbyty os yw'n hanfodol;
  • lleihau oedi hir mewn rhannau hanfodol o'r system;
  • gwella llif cleifion;
  • galluogi pobl i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod, gan leihau'r risg o’u haildderbyn i’r ysbyty.

Bydd y camau hyn yn lleddfu'r pwysau ar y GIG drwy eu galluogi i roi gwasanaethau a gwelyau i eraill ac adleoli staff i feysydd blaenoriaeth.

Yn ogystal â chymryd y camau unigol o fewn cyd-destun lleol, rwyf hefyd yn disgwyl i sefydliadau'r GIG gydweithio i sicrhau gwydnwch yr ymateb brys y tu hwnt i'w ffiniau eu hunain.

Mae ein gwasanaeth ar-lein, Galw Iechyd Cymru, a'r rhif ffôn 111 yn dal i fod ar gael ac yn diogelu ein gwasanaethau gofal sylfaenol ac adrannau achosion brys hanfodol rhag galw gormodol.

Yr egwyddor allweddol yw cadw pobl yn ddiogel a chadw cleifion allan o leoliadau clinigol os nad oes angen sylw arnynt ar frys.

Mae'r rhaglen frechu COVID-19, a ddechreuodd yr wythnos hon, yn rhoi gobaith mawr i ni o ran dychwelyd i ryw fath o normalrwydd. Ond nid ydym yno eto. Bydd yn cymryd sawl mis i gyflwyno'r rhaglen frechu yn llawn. Yn y cyfamser, mae sefydliadau'r GIG yn gorfod adleoli staff o feysydd eraill i gefnogi'r ymdrech honno.

Mae'r gweithlu iechyd a gofal yn gwneud gwaith gwych mewn amgylchiadau eithriadol o anodd, wrth inni ddechrau ar gyfnod prysur y gaeaf ar ôl blwyddyn sydd eisoes wedi bod yn un heriol dros ben. Diolch iddynt am eu gwaith caled, eu hymroddiad a'u dyfalbarhad.

Nid yw'n syndod ein bod yn dechrau gweld cynnydd yn absenoldebau staff y GIG oherwydd salwch, gan gynnwys COVID-19 a’r angen i hunanynysu. Mae sicrhau lles a llesiant y gweithlu, yn ogystal â phoblogaeth ehangach Cymru, yn ystod y pandemig hwn yn hanfodol er mwyn cefnogi a darparu gwasanaethau i bobl Cymru.

I fod yn glir, os bydd cyfraddau trosglwyddo COVID-19 yn parhau i godi mewn cymunedau, a bod y pwysau ar y system iechyd a gofal yn parhau i gynyddu, efallai y bydd angen i Weinidogion Cymru ystyried pa gamau gweithredu a chyfyngiadau brys pellach sy'n angenrheidiol.

Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru, a'r system iechyd a gofal yn gwneud popeth o fewn ei gallu i'ch cadw'n ddiogel. Helpwch ni i’ch helpu chi – rwy'n gofyn i bob un ohonom wneud popeth y gallwn i amddiffyn ein hunain ac i ddiogelu'r GIG. Diogelu Cymru gyda’n gilydd.