Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae effaith barhaus y pandemig ar y GIG, ynghyd â galw cynyddol am ofal mewn argyfwng, yn parhau i roi pwysau dwys ar y GIG, ac mae hynny i’w weld fwyaf mewn gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng.

Mae’r datganiad hwn yn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf a’n cynlluniau i gefnogi a gwella gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng ledled Cymru.

Nid yw’r perfformiad fel y byddem ni, y GIG a’r cyhoedd am iddo fod. Ar draws y DU – ac mewn llawer o rannau eraill o’r byd – mae gwasanaethau iechyd yn wynebu heriau tebyg, yn sgil y cyfuniad o bwysau’r pandemig a phwysau brys.

Er hynny, bob dydd mae ein GIG yn parhau i lwyddo i drin degau o filoedd o bobl sydd angen gofal brys a gofal mewn argyfwng. Mae staff y GIG yn darparu gofal sy’n achub bywydau ac yn newid bywydau, weithiau o dan amgylchiadau heriol a llawn straen. Hoffwn i dalu teyrnged i’w gwaith caled, eu hagwedd benderfynol a’u hymroddiad i’r gwasanaeth ac i ofal cleifion.

Mae nifer o ffactorau yn cyfuno i greu’r pwysau presennol ar y GIG, gan gynnwys galw cynyddol; lefelau uwch na’r arfer o absenoldeb staff oherwydd salwch, nid yn sgil Covid-19 yn unig, ac oedi cyn rhyddhau pobl sy’n barod i adael yr ysbyty. Rwyf wedi trafod yr heriau hyn â chlinigwyr, gweithwyr proffesiynol a rheolwyr, ac wedi ymweld ag adrannau achosion brys ledled Cymru.

Mae lefelau uchel o bobl sy’n barod yn feddygol i adael yr ysbyty ond sy’n methu â gwneud hynny oherwydd diffyg capasiti yn y gymuned yn atal llif yn y system iechyd a gofal gyfan. Effaith hyn yw oedi ger ‘drws ffrynt’ yr ysbyty – yr adran achosion brys. Mae’r diffyg capasiti yn y gymuned wedi’i achosi gan nifer o ffactorau, gan gynnwys cau cartrefi gofal a gwelyau mewn rhai rhannau o Gymru, oherwydd brigiadau o achosion o Covid-19, a phrinder ehangach o staff gofal cymdeithasol ar draws y sector.

Rydym yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r anawsterau ehangach yn y sector gofal cymdeithasol – gan gyflwyno, fis diwethaf, y Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae hyn yn rhan o’n gwaith i wella telerau ac amodau ac annog mwy o bobl i ystyried gyrfa werth chweil ym maes gofal.

Wrth wraidd ein cynllun i gefnogi’r GIG a gwella mynediad at ofal brys neu ofal mewn argyfwng y mae sicrhau y gall pobl gael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf pan fydd angen cymorth arnynt.

Bron i fis yn ôl, lansiais y rhaglen newydd o’r enw Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, a gefnogir gan £25 miliwn y flwyddyn.

Rydym wedi gwneud cynnydd cynnar:

  • Mae GIG 111 Cymru ar gael ledled Cymru. Gall pobl sydd angen gofal brys gael eu cyfeirio at y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. Mae data’r GIG yn dangos bod dros 146,000 o bobl wedi defnyddio’r gwasanaeth ers iddo ddechrau bod ar gael yn genedlaethol.
  • Mae wyth canolfan gofal sylfaenol brys wedi agor a bydd un arall yn agor fis hwn. Mae’r rhain wedi helpu dros 70,000 o bobl i gael gofal yn nes at eu cartrefi heb orfod mynd i adran achosion brys.
     
  • Cyflwynwyd polisi newydd fis diwethaf i alluogi rhai cleifion i gael eu hatgyfeirio’n uniongyrchol drwy ambiwlans at wasanaethau newydd sy’n rhoi gofal mewn argyfwng yr un diwrnod, yn hytrach na mynd â nhw i adran achosion brys. Mae gwasanaethau gofal mewn argyfwng yr un diwrnod yn cael eu cyflwyno’n raddol mewn ysbytai ledled Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn wedi’u lleoli ger adrannau achosion brys ac yn cael eu defnyddio i drin pobl â chyflyrau penodol, ac arsylwi arnynt, drwy gydol y dydd. Y bwriad yw y bydd modd iddynt gael eu hanfon adref yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw. Rydym yn gweithio tuag at sefyllfa lle mae’r gwasanaethau newydd hyn sy’n rhoi gofal mewn argyfwng yr un diwrnod ar gael 12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
  • Mae system brysbennu ambiwlans newydd o’r radd flaenaf yn cael ei chyflwyno, a fydd, yn y pen draw, yn galluogi asesiadau fideo er mwyn asesu pobl sy’n ffonio 999 a bydd modd helpu rhai yn llwyddiannus heb angen anfon ambiwlans.
     

Mae lansio’r rhaglen Chwe Nod yn garreg filltir gynnar yn ein cynlluniau ar gyfer gaeaf 2022-23. Rwy’n disgwyl gweld gwaith cyflym a phwrpasol yn cael ei wneud tuag at yr amcanion yn ystod gweddill y flwyddyn er mwyn rhoi’r system gofal mewn argyfwng yn y sefyllfa orau posibl cyn y gaeaf, a fydd yn gyfnod anodd i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwn yn defnyddio ystod o fesurau i olrhain cynnydd yn erbyn y rhaglen ac rydym wedi gosod llwybrau gwella gwasanaeth ar gyfer rhannau allweddol o’r system gofal brys a gofal mewn argyfwng.

O ystyried cymhlethdod y system gofal brys a gofal mewn argyfwng, rhaid inni fod yn realistig ynghylch cyflymder gwelliannau. Serch hynny, rydym yn disgwyl gweld y gwelliannau canlynol eleni ac yn y cyfnod cyn y gaeaf:

  • Cyfradd ‘ymgynghori a chau’ o 15% yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, gyda mwy o achosion yn cael eu cwblhau yn ddiogel dros y ffôn heb anfon ambiwlans, pan fo hynny’n briodol
  • Bydd disgwyl i fyrddau iechyd gael gwared ag oedi o dros bedair awr wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys a sicrhau lleihad o 25% (o’r lefel ym mis Hydref 2021) yn yr amser cyfartalog sy’n cael ei golli pan fydd ambiwlans yn cyrraedd safle ysbyty
     
  • Gwelliant parhaus o ran pa mor hygyrch yw gwasanaethau gofal mewn argyfwng yr un diwrnod drwy gydol y flwyddyn, gan helpu mwy o bobl i ddychwelyd adref yn ddiogel ar yr un diwrnod â’u hymweliad â’r ysbyty
  • Gwelliant parhaus i leihau nifer y bobl sy’n treulio mwy na 21 diwrnod mewn gwely ysbyty ar ôl cael eu derbyn i’r ysbyty, gan eu helpu i gadw eu hannibyniaeth a lleihau eu risg o gael eu haildderbyn

Bydd bwrdd y rhaglen Chwe Nod yn gofyn i fyrddau iechyd gyflwyno eu cynlluniau yn yr haf yn 2022 ac eto ym mis Hydref 2022 i ddeall cynnydd wrth i’r gaeaf ddynesu. Bydd y gwaith o gyflawni’r cynlluniau yn destun proses graffu gadarn.

Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys wedi dyrannu £1.8 miliwn i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fel mesur tymor byr i alluogi Ambiwlans St John Cymru i barhau i ddarparu cymorth ar unwaith. Bydd hyn hefyd yn darparu capasiti ychwanegol arall i ateb y galw.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf eto am y cynnydd cyn toriad yr haf.