Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Heddiw rydym yn cyhoeddi Protocol i Gymru gyfan sy'n hyrwyddo ymarfer i leihau nifer y plant (hyd at 18 oed) ac oedolion ifanc (18 i 25 oed) â phrofiad o fod mewn gofal sy’n cael eu troseddoli.
Lleihau troseddoli o ran plant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal: protocol Cymru gyfan
Protocol yw hwn ar gyfer sefydliadau datganoledig a sefydliadau sydd heb eu datganoli yng Nghymru a chaiff ei gyhoeddi ar y cyd â'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym yn ddiolchgar am waith y Grŵp Llywio amlasiantaethol sydd wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r cyngor pwysig hwn.
Mae gennym gyfrifoldeb i ddiogelu a hyrwyddo lles pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’u galluogi i wireddu eu huchelgeisiau. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn para tan eu bod yn oedolion ifanc.
Rydym eisoes wedi cymryd camau breision i leihau nifer y plant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n cael eu troseddoli. Fodd bynnag, er nad yw'r mwyafrif helaeth o blant sy'n derbyn gofal yn dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder, os yw hynny’n digwydd mae angen inni sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein dyletswyddau tuag atynt.
Bydd y protocol yn helpu pobl sydd, fel rhan o’u gwaith, yn dod i gysylltiad â phlant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Gwneir hyn drwy rannu fframwaith cyffredin o egwyddorion a disgwyliadau sydd wedi’u seilio ar ddull sy'n hyrwyddo hawliau plant ac sy'n diogelu ac yn hyrwyddo eu lles.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi'r gwaith o weithredu'r protocol ac i sicrhau gwell canlyniadau i blant ac oedolion ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru.