Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
Rwyf wrth fy modd o gadarnhau bod Comisiwn y Gyfraith yn awr wedi dechrau prosiect i adolygu’r gyfraith sy’n llywodraethu gweithrediaeth y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru a gwneud argymhellion ar gyfer diwygio.
Cafodd y rheolau a’r gweithdrefnau ar gyfer amrywiol dribiwnlysoedd datganoledig Cymru eu datblygu mewn modd tameidiog, o ystod eang o wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth, gan olygu eu bod yn gymhleth ac yn anghyson. Datblygwyd llawer o’r ddeddfwriaeth honno y tu allan i’r broses ddatganoli. O ganlyniad, ceir bylchau ac anghysondebau nad ydynt yn addas ar gyfer system dribiwnlysoedd fodern i Gymru. Dyma’r sefyllfa hyd heddiw er gwaethaf rhai o’r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Cymru 2017, gan gynnwys creu rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
Bydd y prosiect yn gwneud argymhellion gyda’r bwriad o ddileu’r cymhlethdodau hyn a byddant yn ystyried materion sy’n gysylltiedig â Bil Tribiwnlysoedd newydd i Gymru. Bydd y Bil newydd hwn wedi ei gynllunio i reoleiddio gweithrediaeth un system neilltuedig ar gyfer tribiwnlysoedd yng Nghymru.
Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â materion sy’n cynnwys:
(a) Cwmpas system dribiwnlysoedd i Gymru
(b) Rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac Uned Tribiwnlysoedd Cymru
(c) Penodi a disgyblu barnwyr tribiwnlysoedd ac aelodau eraill
(d) Penodi Llywyddion/Dirprwyon
(e) Y pŵer i wneud rheolau gweithdrefnol a’u safoni
(f) Prosesau apelio
(g) Y broses gwyno
(h) Amddiffyn annibyniaeth farnwrol.
Mae’r gwaith ar y prosiect wedi dechrau ac mae Comisiwn y Gyfraith yn awr yn ymgysylltu â’i randdeiliaid yng Nghymru. Cyhoeddir papur ymgynghori yn hwyrach yn ystod y flwyddyn, a chyflwynir adroddiad terfynol yn haf 2021.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.