Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf am roi gwybod i'r Aelodau am ein cynlluniau i estyn y cynllun peilot ar gyfer cynnal profion COVID-19 mewn ardal gyfan i Gwm Cynon isaf.

Ers 21 Tachwedd, mae pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio ym mwrdeistref Merthyr Tudful wedi cael cynnig profion COVID-19. Mae'r cynllun peilot ym Merthyr yn parhau i fynd yn dda gyda bron i 8000 o bobl yn cael eu profi yn ystod 6 diwrnod cyntaf y cynllun.

O ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr bydd yr ardal beilot yn cael ei hestyn i Gwm Cynon isaf. 

Ein nodau o hyd wrth gynnal y cynllun peilot mewn ardal gyfan yw:

  • diogelu’r trigolion sy'n wynebu'r risg fwyaf;
  • profi cymaint o drigolion yr ardal â phosibl er mwyn nodi'r feirws, ble bynnag y bo, a grymuso'r gymuned leol i atal a lleihau’r lledaeniad cymunedol er mwyn achub bywydau a diogelu bywoliaeth pobl;
  • rhoi gwell dealltwriaeth byth inni o nifer yr achosion yn y gymuned a faint o bobl sy'n asymptomatig.

Er mwyn cyflawni'r nodau hyn rydym yn ceisio gweithio gyda'r cymunedau a'r bobl sy'n byw yng Nghwm Cynon isaf i’w hannog i fanteisio ar y profion sy'n cael eu cynnig a helpu i gadw’r ardal yn ddiogel.

Mae hyn yn cael ei roi ar waith trwy bartneriaeth gydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chymorth logistaidd gan bersonél y Lluoedd Arfog. Mae’r holl bartneriaid o dan sylw wedi dangos menter a chreadigrwydd wrth ddatblygu atebion ar gyfer cyflawni ac mae eu hagwedd bositif wedi creu argraff fawr arnom.

Bydd pob preswylydd sydd heb symptomau yn cael cynnig profion COVID-19 ailadroddus i helpu i ddod o hyd i ragor o achosion positif ac i dorri'r cadwyni trosglwyddo. Bydd safleoedd ar gyfer cynnal profion asymptomatig yn cael eu sefydlu mewn nifer o leoliadau gan gynnwys Abercwmboi, Abercynon, Cwmaman, Aberpennar a Phenrhiwceiber. Bydd myfyrwyr a staff Ysgol Uwchradd Aberpennar yn cael cynnig profion hefyd.

Dylai preswylwyr sydd â symptomau COVID-19 barhau i ofyn am brofion yn y ffordd arferol.

Fel ym Merthyr, bydd Dyfeisiau Llif Unffordd (LFD) yn cael eu defnyddio. Bydd pawb sy'n mynychu unrhyw un o'r safleoedd yn cael prawf gan ddefnyddio'r dyfeisiau, sy'n gallu dangos canlyniad o fewn tua 20-30 munud. Os bydd unigolyn yn cael canlyniad positif drwy brawf LFD, bydd wedyn yn cael prawf swab traddodiadol a gofynnir iddo ddychwelyd adref a hunanynysu ar unwaith.

Bydd yr hyn a ddysgir o'r cynllun peilot profi torfol ym Merthyr ac yng Nghwm Cynon isaf yn darparu rhagor o wybodaeth hanfodol i helpu i lywio'r gwaith o gyflwyno profion torfol yng Nghymru yn y dyfodol.