Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad hwn yn rhoi diweddariad pellach i Aelodau ynghylch profion system gyfan a gynhaliwyd gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) yn dilyn argymhellion gan Banel Arbenigwyr Llywodraeth y DU a sefydlwyd yn sgil trychineb Tŵr Grenfell. Roedd fy natganiadau ysgrifenedig ar 28 Gorffennaf a 3 Awst yn sôn am ganlyniadau'r prawf cyntaf a'r ail brawf.

Mae rhagor o ganlyniadau bellach wedi'u rhyddhau gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol; canlyniadau sy'n ymwneud â phrofion 3 a 4. Mae'r profion fel a ganlyn:

  1. Prawf 3: ACM â llenwad polyethen arafu tân (categori 2 mewn profion sgrinio), ac insiwleiddiad sbwng polyisocyanurate; a
  2. Prawf 4: ACM â llenwad polyethen arafu tân gydag insiwleiddiad gwlân mwynol (categori 2 mewn profion sgrinio).

Bu i Brawf 3 fethu'r prawf system gyfan, gan y bu i ledaeniad y fflamau ymestyn yn uwch nag offer y prawf. Mae canlyniad y prawf yn dangos bod y system hon wedi methu â bodloni'r meini prawf a nodir yn BR 135 fel sy'n ofynnol yn ôl y canllawiau cyfredol ar Reoliadau Adeiladu. Caiff prawf pellach, sef y seithfed prawf, ei ychwanegu at yr amserlen i ddilyn y pumed a’r chweched prawf, a hynny er mwyn rhoi darlun mwy cyflawn, gan brofi ACM â llenwad polyethen arafu tân (categori 2 mewn profion sgrinio) gyda insiwleiddiad sbwng ffenolig.

Mae'r system ym Mhrawf 4 yn debyg i'r cyfuniad sydd ar bedwar adeilad sy'n berchen i Ddinas a Sir Abertawe. Mae samplau o'r rhain wedi'u profi'n flaenorol gan y BRE. Pasiodd y system a brofwyd y prawf, ac mae hynny'n ddatblygiad cadarnhaol. Wrth gwrs, rhaid i landlordiaid a pherchenogion barhau i fanteisio ar bob cyngor a chanllaw arbenigol sydd ar gael iddynt mewn perthynas â'u hadeiladau. 

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau wrth i'r drefn brofi fynd rhagddi.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.