Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae diogelwch ac amddiffyniad y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wrth wraidd ein hymateb I’r pandemig.

Yn dilyn ymddangosiad a lledaeniad cyflym amrywiolyn Omicron, rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar gyfer y staff ym maes gofal iechyd, gofal cymdeithasol, hosbisau ac ysgolion arbennig sydd yn gymwys ar gyfer profion asymptomatig arferol. 

Bydd yr aelodau staff hyn, waeth beth yw eu statws brechu neu heintio blaenorol gan COVID-19, yn cael eu hannog yn gryf i gymryd prawf llif ochrol (LFT) bob dydd cyn iddynt fynd i'r gwaith.

Dylent wneud y prawf gartref, gan ddefnyddio'r Profion Llif Unffordd a ddarperir gan eu cyflogwr, mewn da bryd cyn dechrau eu shifft i ganiatáu i aelod staff arall wneud y shifft os bydd y prawf yn bositif.  

Mae profi dyddiol fel hyn yn fwy tebygol o nodi y bobl hynny a allai fod yn heintus, heb ddangos symptomau, a cyn iddynt adael eu cartref i ddechrau gweithio.  Bydd hyn yn ei dro yn hepu i warchod cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, plant ac aelodau staff eraill.

Rydym yn ymgysylltu â'n partneriaid ar draws y sectorau perthnasol i gefnogi'r gwaith o weithredu'r newid hwn mewn canllawiau fel y gellir gwneud newidiadau gweithredol cyn gynted â phosibl. 

Bydd staff hefyd yn cael eu hatgoffa am bwysigrwydd cofnodi eu holl ganlyniadaau ar borthol Llywodraeth y DU.  Mae hwn yn rhan hanfodol o’r rhaglen sy’n cefnogi penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth.