Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, hoffem eich hysbysu bod cyfarfod Grŵp Rhynglywodraethol Gweinidogion Iechyd y DU wedi’i gynnal ar 16 Mehefin.

Fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant roeddem yn bresennol yn y cyfarfod gyda’r Gwir Anrh. Sajid Javid AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth y DU a Robin Swann ACD, y Gweinidog Iechyd, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Nid oedd Humza Yousaf ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Chwaraeon, Llywodraeth yr Alban, yn gallu bod yn bresennol.

Trafodwyd anghydraddoldebau a gwahaniaethau iechyd, wrth ganolbwyntio ar ddisgwyliad oes iach, gordewdra a thybaco. Cafodd pob Gweinidog gyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau eu llywodraethau i wella disgwyliad oes iach ac i gau’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig mewn cymdeithas.

Mynegwyd ein siom ynghylch penderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ohirio cyflwyno cyfyngiadau ar hysbysebu cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr.

Mynegwyd hefyd ein cefnogaeth mewn egwyddor i argymhellion adolygiad Khan, i roi diwedd ar ysmygu yn Lloegr erbyn 2030. Byddai llawer o’r argymhellion yn berthnasol yng Nghymru, megis y cynigion i gynyddu’r terfyn oedran yn y man gwerthu a chyflwyno ardoll ar elw cwmnïau tybaco.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ôl toriad yr haf.