Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Yn dilyn proses recriwtio agored a chystadleuol o dan reolau’r gwasanaeth sifil, mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Derek Vaughan wedi cael ei benodi yn Gynrychiolydd cyntaf Llywodraeth Cymru ar Ewrop.
Bydd yn gweithio fel cynghorydd polisi arbenigol mewn rôl newydd law yn llaw â swyddfa bresennol Llywodraeth Cymru ym Mrwsel, y tîm Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach yng Nghymru a rhanddeiliaid eraill. Bydd yn chwarae rôl bwysig wrth gysylltu Cymru ag Ewrop a gwneud yn siŵr bod llais Cymru yn parhau i gael ei glywed.
Dyma swydd newydd a fydd yn helpu Cymru i aros mewn cysylltiad â’r Undeb Ewropeaidd a sicrhau bod cymunedau a busnesau ledled Cymru yn parhau i fanteisio, cyn belled ag sy’n bosibl, ar gysylltiadau parhaus ag Ewrop, mynediad at raglenni, a gwaddol bron i 50 mlynedd o gydweithio.
Drwy’r penodiad hwn, byddwn yn datblygu ymhellach ein perthynas bresennol â’n cymdogion yn yr Undeb Ewropeaidd. Cyflawnir hyn drwy ymgysylltu, rhannu safbwyntiau ac arddangos undod ar draws ystod o fuddiannau Ewropeaidd, gan gynnwys masnach, addysg, ymchwil, yr amgylchedd, ynni, y môr, diwylliant ac iaith.
Mae penodi rôl cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop yn ymrwymiad allweddol i Weinidogion Cymru.
Bydd Cymru bob amser yn genedl Ewropeaidd.
Mae’r rôl cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop wedi cael ei datblygu i helpu ein gwaith yn Ewrop, yn benodol i:
- Ymgysylltu â gwleidyddion a swyddogion yn sefydliadau’r UE a rhanddeiliaid allweddol yn Ewrop
- Hyrwyddo agenda bolisi Llywodraeth Cymru yn yr UE, gan ganolbwyntio ar newid yn yr hinsawdd, ymchwil, arloesi, Horizon 2020, y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu a rhwydweithiau Ewropeaidd
- Defnyddio gwybodaeth i lywio a chefnogi amcanion Gweinidogion i fod o fudd i feysydd polisi gwahanol
- Cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn rhwydweithiau Ewropeaidd allweddol, megis Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol
- Cefnogi’r gwaith o gyflawni agweddau Ewropeaidd ar amcanion economaidd Llywodraeth Cymru
- Ymgysylltu â Chomisiynwyr Ewropeaidd ac Aelodau o Senedd Ewrop
- Cynrychioli Llywodraeth Cymru fel sy’n ofynnol.
Daw Derek Vaughan â chyfoeth o brofiad i’r rôl newydd hon. Bu gynt yn aelod o Senedd Ewrop, yn Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Bydd yn ymgymryd â’r rôl newydd hon yn fuan. Dyma gontract dwy flynedd, ar sail ran-amser sy’n cyfateb i ddau ddiwrnod yr wythnos.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.