Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC – Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi cyhoeddi heddiw adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus ynghylch Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ac rwyf wedi nodi fy mhenderfyniadau ynghylch y mater.

Gallwch weld adroddiad yr Arolygydd ynghyd â fy llythyr penderfyniad llawn yma:

Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd 

Mae’r adroddiad a’r llythyr penderfyniad yn cael eu cyhoeddi cyn fy natganiad llafar i’r Cynulliad yn nes ymlaen heddiw. Byddaf yn amlinellu’r camau nesaf mewn perthynas â’r mater yn y datganiad llafar hwn.