Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd Aelodau’r Cynulliad am wybod bod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cytuno ar 20 Mawrth i ddiddymu’r rheolaethau monitro ar ddefaid a gyflwynwyd ym 1986 yn dilyn damwain niwclear Chernobyl.
O’r 9,800 o ddaliadau yn y DU, a mwy na 4 miliwn o ddefaid a roddwyd dan gyfyngiad yn syth ar ôl y ddamwain ym 1986, dim ond 327 o ffermydd yng Ngogledd Cymru ac 8 fferm yn Cumbria, Lloegr, sy’n dal i fod dan gyfyngiad o ryw fath. Cafodd yr holl reolaethau ‘Mark and Release’ eu codi yng Ngogledd Iwerddon yn 2000 ac yn yr Alban yn 2010.
Cynhaliodd yr ASB adolygiad i asesu p’un a oedd y mesurau diogelu hyn yn dal i fod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau diogelwch bwyd. Daeth y gwaith hwn, a gynhaliwyd yn ystod 2011, i’r casgliad nad yw’r rheolaethau cyfredol yn gymesur i lefel isel iawn y risg, ac na fyddai diddymu’r rheolaethau yn cyfaddawdu diogelwch defnyddwyr.
Yn dilyn ymgynghoriad 12 wythnos gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys rhanddeiliaid, ffermwyr a effeithiwyd, undebau ffermio a chyrff masnachu, mae’r Bwrdd wedi cytuno i ganiatáu i’r ASB gyhoeddi Cydsyniadau, a fydd yn diddymu’r rheolaethau. Bydd hyn yn caniatáu i’r holl ffermydd sy’n dal i fod dan gyfyngiad symud defaid heb fod angen monitro, a hynny o 1 Mehefin 2012.
Bydd yr ASB hefyd yn argymell i Weinidogion Cymru, San Steffan, yr Alban a Gogledd Iwerddon, y dylid dirymu’r Gorchmynion sy’n weddill o dan Ddeddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985 (a elwir yn Orchmynion FEPA) sydd ar hyn o bryd yn cyfyngu ar symud defaid mewn ardaloedd dynodedig o’r DU. Bydd hyn yn diddymu’r ddeddfwriaeth sydd bellach yn ddiangen yn sgil cyhoeddi’r Cydsyniadau.