Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae pobl ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw digynsail, sydd wedi'i ysgogi gan filiau ynni cynyddol. Mae prisiau o ddydd i ddydd yn codi wrth i chwyddiant godi.
Disgwylir i'r argyfwng hwn waethygu o fis Ebrill ymlaen wrth i aelwydydd deimlo effaith y cynnydd o 54% yn y codiad mewn prisiau ynni, a gyhoeddwyd gan OFGEM yn gynharach y mis hwn a chyflwyno'r codiadau mwyaf mewn trethi ers bron i 30 mlynedd.
Wrth imi gyhoeddi'r ail Gyllideb atodol ar gyfer 2021-22, rwyf yn cyhoeddi pecyn cymorth heddiw, sy'n cyfateb i fwy na £330m i helpu pobl ledled Cymru i reoli eu cyllidebau a bodloni rhai o'r costau byw cynyddol yn ystod y 12 mis nesaf.
Mae'r pecyn hwn yn ychwanegol at y cymorth yr ydym eisoes wedi'i ddarparu y gaeaf hwn, gan gynnwys y taliad o £200 o dan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, sydd ar gael i ryw 350,000 o bobl ar incwm isel.
Wrth wraidd y pecyn cymorth mae taliad costau byw o £150, a ddarperir i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau'r dreth gyngor A i D ac i bob aelwyd sy'n cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ym mhob un o fandiau’r dreth gyngor. Cyfanswm cost y cymorth hwn yw £152m.
Byddaf hefyd yn sicrhau bod £25m pellach ar gael i’r awdurdodau lleol ar ffurf cronfa ddewisol. Byddant yn gallu targedu'r cyllid ychwanegol hwn i helpu aelwydydd a allai fod yn ei chael hi'n anodd.
Mae gweddill y cyllid yn cael ei fuddsoddi mewn nifer o gynlluniau eraill i helpu pobl, gyda chostau byw. Bydd y cymorth ychwanegol hwn yn canolbwyntio ar deuluoedd sy'n agored i niwed, cymorth gyda chostau bwyd ac addysg.
Mae hyn yn cynnwys dyraniadau penodol o fwy na £100m sy’n eu buddsoddi yn y Gronfa Cymorth Dewisol a'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn 2022-23.
Bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn 2022-23 yn sicrhau y gall y cynllun unwaith eto roi taliad arian parod o £200 i bobl ar incwm isel tuag at eu biliau ynni yn ddiweddarach eleni. Bydd hefyd yn golygu y bydd mwy o bobl yn elwa o'r gefnogaeth.
Bydd y cymorth hwn gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at ad-daliad £200 Llywodraeth y DU ar filiau trydan ym mis Hydref. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i holl dalwyr y bil ad-dalu'r bil - bydd £40 yn cael ei ychwanegu at fil trydan pawb bob blwyddyn am bum mlynedd.
Bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol yn 2022-23 yn sicrhau bod mwy o bobl yn parhau i gael cymorth brys ac argyfwng pan fydd ei angen arnynt. Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud cyhoeddiad pellach am y ddau gynllun hyn.
Edrychaf ymlaen at ymuno â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn uwchgynhadledd costau byw gyda phartneriaid cymdeithasol a sefydliadau'r trydydd sector i drafod yr argyfwng a'n hymateb ar y cyd ddydd Iau
Cyhoeddir yr ail Gyllideb atodol heddiw.