Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Papur Gwyn sy'n amlinellu ei chynigion ar gyfer gwella'r fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, a hefyd ar gyfer diwygio'r drefn drwyddedu ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat.

Mae cynigion yn y Papur Gwyn sy'n amlinellu amrywiaeth o opsiynau a fydd yn grymuso awdurdodau lleol i benderfynu ar y model mwyaf priodol ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau yn eu hardaloedd, ac ar gyfer mynd i'r afael â'r anghysonderau a'r heriau o ran trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.

Gan ddefnyddio'r pwerau newydd a roddwyd inni gan Ddeddf Cymru 2017, gallwn ddatblygu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mewn ffordd a fydd yn ein helpu i wireddu'n huchelgais i ddenu rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac i annog teithwyr i’w ddefnyddio yn lle ceir preifat; gan leihau llygredd a thagfeydd. 

Rydym yn benderfynol o greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mwy effeithiol, a fydd yn cynnig gwell rhwydwaith o wasanaethau bysiau lleol, cysondeb o ran ansawdd y gwasanaethau a gynigir gan dacsis a cherbydau hurio preifat, yn ogystal â gwasanaethau rheilffyrdd a fydd yn rhan o Fasnachfraint newydd Cymru a'r Gororau.     

Ein dyhead yw datblygu system drafnidiaeth gydgysylltiedig, integredig ac aml-ddull i Gymru, a fydd ar gael yn hwylus, a fydd yn fforddiadwy ac yn cael ei hintegreiddio ar draws Cymru gyfan; gan gynnig dewis a chyfleoedd a ffordd amgen ymarferol o deithio yn lle ceir preifat.

Er mwyn gwireddu'r dyheadau hynny, mae angen inni sicrhau bod gennym yr arfau deddfwriaethol, sefydliadol, technegol a gweinyddol cywir yn eu lle a'n bod yn cydweithio ac yn cydweithredu − gan wneud hynny ar draws y llywodraeth ac mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'r sector preifat.

Ar hyn o bryd, nid yw gweithredwyr bysiau yn cydgysylltu eu gwasanaethau, ac nid yw gwasanaethau bysiau'n cael eu cydgysylltu'n dda â gwasanaethau rheilffyrdd. Nid oes cysondeb o ran safonau ar draws fflydoedd cerbydau. Dim ond ychydig o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael mewn rhai cymunedau, neu efallai nad oes ynddynt unrhyw ddarpariaeth o gwbl. Yn aml, nid oes cysondeb o ran yr wybodaeth sydd ar gael i deithwyr ac mae'n cael ei chyflwyno'n wael a chan ddarparwyr gwahanol. Mae’r gyfraith sy'n ymwneud â thacsis a cherbydau hurio preifat yn gymhleth, mae hi’n perthyn i’r oes o’r blaen ac mae angen ei diwygio.

Nod y cynigion yn y Papur Gwyn yw sefydlu dulliau deddfwriaethol a fydd yn galluogi'r awdurdodau lleol i gydweithio â'i gilydd, a chyda gweithredwyr bysiau, er mwyn ymateb mewn ffordd hyblyg i anghenion y gymuned leol, gan deilwra'r ffordd y byddant yn gwneud hynny yn ôl amgylchiadau a heriau gwahanol. Byddai’r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yn darparu ar gyfer gwell cynlluniau partneriaeth, yn cynnig opsiwn gwell o ran masnachfreintiau, ac yn rhoi'r opsiwn i awdurdodau lleol redeg gwasanaethau bysiau.

O ran tacsis a cherbydau hurio preifat, nod y cynigion yw mynd i'r afael â'r ffaith nad yw'r ddeddfwriaeth hynafol yn adlewyrchu arferion modern. Rydym yn benderfynol o fynd i'r afael ag anghysondeb y safonau trwyddedu presennol, cryfhau'r pwerau gorfodi presennol, a chreu dyletswyddau newydd o ran rhannu gwybodaeth. Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn elfen hanfodol o'n huchelgais i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig, a byddai angen eu hystyried nhw hefyd wrth fynd ati i geisio dod o hyd i ateb, yn enwedig fel rhan o unrhyw gynllun trafnidiaeth a fyddai’n seiliedig ar alw. 

Mae'r Papur Gwyn yn mynd ati hefyd i amlinellu cynigion ar gyfer gwella gwaith partneriaeth rhwng yr awdurdodau lleol drwy sefydlu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth, a fyddai'n ymdrin â gwasanaethau bysiau ac â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.

Mae ynddo gynigion hefyd i fynd ati'n raddol i godi'r oedran pan fydd pobl yn gymwys i gael pas bws consesiynol, gan anelu, yn y pen draw, at sefyllfa lle bydd yr un ag peth oedran pensiwn menywod. Bydd yr egwyddor sylfaenol o hawl gyffredinol yn parhau o dan y cynnig hwn. Ni fydd unrhyw un sydd â phas ar hyn o bryd yn colli'i hawl i deithio am ddim mewn unrhyw le yng Nghymru.

Mae'r Papur yn gwahodd y cyhoedd, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid yn y diwydiant i ystyried y cynigion ac i anfon eu hymateb atom.

Byddaf yn croesawu ac yn edrych ymlaen at gael clywed eich barn am y ddogfen ymgynghori, sydd ar gael drwy'r ddolen hon https://beta.llyw.cymru/gwella-trafnidiaeth-gyhoeddus.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 27 Mawrth 2019.