Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae data ein gwaith gwyliadwriaeth yn parhau i ddangos bod cyffredinrwydd COVID-19 mewn cymunedau ac ysbytai yn gostwng yn dilyn y don ddiweddar a achoswyd gan is-deipiau BA.4 a BA.5 o amrywiolyn Omicron y coronafeirws.
Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau o hyd, ac rydym newydd ddechrau cyflwyno brechiad atgyfnerthu yr hydref yn erbyn COVID-19. Bydd pawb sy’n gymwys yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu erbyn mis Rhagfyr a byddwn yn annog pawb i fanteisio ar y cynnig hwn.
Wrth inni symud i’r hydref a’r gaeaf, pan ddaw feirysau anadlol yn fwy cyffredin, gallwn gadw ein gilydd yn ddiogel drwy ddilyn camau syml, fel golchi dwylo’n aml, aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill os oes gennym symptomau, a gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau gofal iechyd a mannau gorlawn dan do.
Ar sail y cyngor clinigol diweddaraf sydd ar gael am fanteision profion asymptomatig pan fo cyffredinrwydd y coronafeirws yn is, o 8 Medi ymlaen byddwn yn gwneud newidiadau i’n trefniadau profi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Byddwn yn oedi’r ddarpariaeth o brofion asymptomatig rheolaidd i staff yn y lleoliadau a ganlyn:
- y GIG (gan gynnwys darparwyr gofal iechyd annibynnol sy’n trin cleifion y GIG)
- lleoliadau gofal iechyd, gan gynnwys cartrefi gofal a gwasanaethau hosbis
- ysgolion arbennig
Byddwn hefyd yn oedi’r ddarpariaeth o brofion asymptomatig i ymwelwyr â chartrefi gofal, ymwelwyr â’r rhai sy’n gymwys i gael triniaethau COVID-19, a charcharorion wrth iddynt gael eu derbyn i’r carchar.
O dan ein fframwaith profi cleifion, bydd penderfyniadau ar yr angen am brofion asymptomatig i gleifion yn cael eu seilio ar benderfyniadau lleol ac asesiad risg, a fydd yn seiliedig ar farn glinigol am y risg i’r claf ac i eraill, natur y driniaeth ac achosion/cyffredinrwydd lleol.
Byddwn yn parhau i ddarparu profion symptomatig i gleifion, y rhai sy’n gymwys i gael triniaethau COVID-19, staff iechyd a gofal cymdeithasol, preswylwyr cartrefi gofal a charcharorion. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu profion i’r rhai sy’n cael eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal. Yn achos preswylwyr cartrefi gofal, carcharorion a rhai cleifion, rydym yn darparu profion amlddadansoddiad sy’n canfod COVID-19 a feirysau anadlol eraill.
Byddwn yn amlinellu ein dull o ymdrin â feirysau anadlol yn ystod yr hydref/gaeaf ym mis Hydref. Bydd hyn yn cynnwys gwneud mwy o waith gwyliadwriaeth a defnyddio profion amlddadansoddiad i raddau mwy oherwydd y bygythiad posibl o don bellach o heintiau COVID-19 a thymor heriol o safbwynt iechyd anadlol.
Byddwn yn parhau i adolygu’r data diweddaraf o waith gwyliadwriaeth ynghyd â’r sefyllfa o ran profion. Bydd canllawiau’n cael eu diweddaru a’u rhannu â’r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol cyn 8 Medi.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.