Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwyf wedi gosod rheoliadau i wneud diwygiadau pellach i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Yn dilyn cyngor y Prif Swyddog Meddygol a Grŵp Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU ar Argyfyngau, mae'r rheoliadau hyn:

  • yn darparu bod yn rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo hunanynysu o ganlyniad i fod mewn cysylltiad agos â pherson sydd wedi cael prawf positif ar gyfer y coronafeirws hunanynysu am 10 niwrnod yn hytrach nag 14, ac yn gwneud darpariaeth drosiannol ar gyfer y rhai sydd eisoes yn hunanynysu;
  • yn caniatáu i blentyn y mae'n ofynnol iddo hunanynysu symud i aelwyd arall yn ystod y cyfnod hunanynysu os yw hyn yn unol â'r trefniadau presennol yn ymwneud â gwarchodaeth a chyswllt â rhieni'r plentyn;

Mae'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd wedi'u diwygio i leihau'r cyfnod y mae'n ofynnol i berson hunanynysu o 14 o ddiwrnodau i 10 niwrnod ac i ganiatáu i blentyn y mae'n ofynnol iddo hunanynysu symud i aelwyd arall yn ystod y cyfnod hunanynysu os yw hyn yn unol â'r trefniadau presennol yn ymwneud â gwarchodaeth a chyswllt â rhieni'r plentyn;

Mae'r rheoliadau hyn wedi'u gwneud cyn gynted ag y bo’n ymarferol yn dilyn y cyngor iechyd cyhoeddus, y cytunwyd arno gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU, a oedd yn dangos mai ychydig o risg gwirioneddol oedd yn gysylltiedig â lleihau’r cyfnod hunanynysu i 10 niwrnod o’i gymharu â’r cyfnod o 14 diwrnod y gwyddir bod y lefelau cydymffurfio ag ef yn isel.

Yn yr asesiad effaith a gyhoeddwyd ar gyfer y ddyletswydd hunanynysu, roeddem yn cydnabod bod y gofyniad i hunanynysu am 14 diwrnod yn debygol o gael effaith negyddol mewn ystod eang o amgylchiadau, ac ar grwpiau gwarchodedig. Bydd lleihau'r cyfnod hunanynysu i 10 diwrnod mewn modd diogel yn lleihau'r niwed cymharol hwn. Mae'r newid hwn yn lleihau'r amser y mae plant a phobl ifanc yn ei dreulio i ffwrdd oddi wrth ddysgu wyneb yn wyneb, yn lleihau'r effaith ar y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu (sef menywod, i raddau anghymesur) ac yn helpu i leihau’r tarfu ar fusnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar y taliad o £500 drwy’r cynllun cymorth hunanynysu.