Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu caniatáu i deithwyr o'r UE a'r Unol Daleithiau sydd wedi cael eu brechu'n llawn ymweld â'r DU heb orfod hunanynysu ar ôl cyrraedd.
Mae risgiau iechyd cyhoeddus clir o hyd wrth ailddechrau teithio rhyngwladol ar hyn o bryd – ac o gael gwared ar gyfyngiadau cwarantin i'r rheini sy'n cyrraedd o’r Unol Daleithiau a gwledydd yr UE ar y rhestr oren sydd wedi'u brechu'n llawn. Heb y gofyniad i hunanynysu ar ôl cyrraedd mae risg uwch o fewnforio achosion ac amrywiolynnau sy'n peri pryder (VoCs) o dramor. Bydd y brechlynnau'n lleihau'r risg honno, ond dim ond os ydynt yn effeithiol yn erbyn VoCs. Dyna pam yr ydym yn parhau i rybuddio rhag teithio dramor yr haf hwn os nad yw'n hanfodol i wneud hynny.
Rydym yn gresynu at gynigion Llywodraeth y DU i gael gwared ar ragor o ofynion cwarantin. Fodd bynnag, gan ein bod yn rhannu ffin agored â Lloegr byddai'n aneffeithiol i gyflwyno trefniadau ar wahân ar gyfer Cymru. Felly, byddwn yn cyd-fynd â Llywodraethau eraill y DU ac yn gweithredu'r penderfyniad hwn ar gyfer Cymru. Rydym yn edrych tuag at Lywodraeth y DU i ddarparu sicrwydd y bydd prosesau mewn lle i sicrhau bod y sawl sy’n cyrraedd y DU wedi’u brechu’n llawn. Yn ogystal, wrth wneud hynny, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am sicrwydd y byddant yn cynnal goruchwyliaeth gadarn a pharhaus o brofion PCR – gan gynnwys profion PCR a fydd i’w cynnal cyn gadael i deithio, ar ddiwrnod 2, gan gynnwys dilyniant genom canlyniadau a hynny fel un ffordd o leihau mewnforio amrywiolynnau sy'n dianc rhag effaith brechlyn.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.