Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn sgil y risgiau parhaus sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, gan gynnwys yr amrywiolyn newydd omicron, sydd wedi dod i’r amlwg yn gyflym yn ddiweddar, rydym yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor ar hyn o bryd oni bai bod hynny’n hanfodol.
Ychydig wythnosau yn unig ar ôl iddo ddod i sylw Sefydliad Iechyd y Byd, mae omicron wedi lledaenu o gwmpas y byd, a bellach dyma’r amrywiolyn cryfaf o’r feirws yn y DU.
Yn unol â phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, rwyf heddiw, yn anfoddog, wedi cytuno i ddileu’r gofynion i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn a phobl dan 18 oed wneud prawf cyn ymadael a phrawf PCR diwrnod 2 pan fyddant yn cyrraedd y DU.
Bydd angen i bob teithiwr sydd wedi’i frechu’n llawn wneud prawf dyfais llif unffordd (LFD) ar ddiwrnod 2, ac os bydd yn bositif, prawf PCR dilynol er mwyn galluogi dilyniant genom i gael ei gynnal. Mae’r gofyniad i hunanynysu hyd nes y ceir prawf negatif hefyd wedi cael ei ddileu.
Mae’r gofynion ar gyfer teithwyr sydd heb eu brechu yn parhau heb eu newid.
Bydd y newidiadau hyn dechrau dod i rym o 4am ddydd Gwener 7 Ionawr. Caiff profion llif unffordd eu derbyn fel profion ar ôl cyrraedd o 4am ddydd Sul 9 Ionawr.
Mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn ail agor teithiau rhyngwladol mor gyflym yn peri pryder i ni, gan ystyried y pryderon parhaus ynghylch cludo amrywiolion newydd a rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd.
Mae profion PCR diwrnod 2 yn gweithio fel rhyw faith o system fonitro ar gyfer teithio rhyngwladol. Pe bawn wedi cadw’r gofyniad i wneud profion PCR ar ddiwrnod 2, mae’n bosibl y byddem wedi dod yn ymwybodol o bresenoldeb omicron yn gynt.
Gan ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu’r gofyniad i wneud profion PCR, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio ar draws y pedair gwlad i sicrhau bod system biofonitro yn cael ei chynnal i ddarparu ffordd o warchod yn erbyn cludo amrywiolion yn y dyfodol.
Rwyf hefyd wedi cytuno i ychwanegu’r canlynol at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd â rhaglenni brechu sy’n cael eu cydnabod;
Bhutan, Cameroon, Y Traeth Ifori, Fiji, Irac a Rhanbarth Kurdistan o Irac, Liberia, Mali, Mauritania, Niger, Gogledd Cyprus, Palau, Papua Guinea Newydd, Paraguay, Ynysoedd Solomon, Y Gambia ac Uzbekistan.
Daw’r newidiadau hyn i rym am 4am ddydd Llun 10 Ionawr.
Wrth i’n system iechyd y cyhoedd weithio’n galed i leihau’r lledaeniad o achosion sydd eisoes yng Nghymru, mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi tanseilio’r ymdrechion hyn drwy gludo achosion newydd o heintiau’r coronafeirws drwy deithiau rhyngwladol.
Rydym yn parhau i annog pawb yng Nghymru i gael eu brechu gan gynnwys cael brechiad atgyfnerthu, sy’n hanfodol er mwyn cynyddu lefel ein hamddiffyniad yn erbyn yr amrywiolyn omicron.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.