Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi bod yn pwyso’n gyson ar Lywodraeth y DU i gymryd camau mwy rhagofalus o ran teithio rhyngwladol er mwyn atal ailgyflwyno coronafeirws i’r DU, yn enwedig amrywiolion newydd ac amrywiolion sy’n dod i’r amlwg, efallai na fydd y brechlynnau’n effeithiol yn eu herbyn.

Gan y bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n teithio i wledydd tramor yn gwneud hynny drwy feysydd awyr a phorthladdoedd yn Lloegr ac oherwydd bod Cymru’n rhannu ffin agored gyda Lloegr, er ein bod yn bryderus am y risgiau sy’n gysylltiedig â theithio, nid yw’n ymarferol i Gymru ddatblygu ei pholisi ei hun ar ffiniau, ar wahân i drefniadau gwledydd eraill y DU.

Rwyf felly wedi cytuno y dylai Colombia, Gweriniaeth Dominica, Ecuador, Haiti, Panama, Periw a Venezuela aros ar y rhestr goch, ac y dylid tynnu 47* o wledydd eraill o’r rhestr.

Rwyf hefyd wedi cytuno i ychwanegu 38** o wledydd eraill at y rhai yr ydym yn eu cydnabod o fewn y diffiniad o frechu’n llawn, ynghyd â phobl sydd wedi’u brechu’n llawn o dan raglen frechu'r Cenhedloedd Unedig.

Daw’r newidiadau i rym o 4am ddydd Llun 11 Hydref 2021.   

Ni wneir y newidiadau hyn heb risg. Maent yn cynyddu’r cyfle i heintiadau newydd ac amrywiolion newydd, na fydd y brechlynnau’n effeithiol yn eu herbyn, gyrraedd y DU a Chymru. Rydym yn gofyn i Lywodraeth y DU roi sicrwydd y bydd yn cynnal systemau gwyliadwriaeth cyson a chadarn sy’n gallu canfod amrywiolion peryglus yn gynnar ac y gellir gwyrdroi’r mesurau i lacio cyfyngiadau yn gyflym pe bai’r sefyllfa yn gwaethygu’n rhyngwladol.

Rydym yn pryderu am effaith gronnol y risg sy’n gysylltiedig ag ehangu teithio, yn enwedig o wledydd risg uchel.

Mae hyn yn cynnwys y lleihad mawr yn y nifer o wledydd ar y rhestr goch a’r awgrym bod Llywodraeth y DU yn ystyried llacio’r rheolau cwarantin yn sylweddol ar gyfer gwledydd ar y rhestr goch* a chyflwyno’r defnydd o brofion llif unffordd ar gyfer teithwyr sy’n dychwelyd.

Mae’r holl fesurau hyn gyda’i gilydd yn cynyddu’r risgiau o gyflwyno amrywiolyn newydd i Gymru a’r DU yn sylweddol.

 

*Gwledydd sy’n cael eu tynnu o’r rhestr goch - Affganistan, Angola, Yr Ariannin, Bolivia, Botswana, Brasil, Burundi, Cape Verde, Chile, Ciwba, Congo (Gweriniaeth Ddemocrataidd), Costa Rica, De Affrica, Eritrea, Eswatini, Ethiopia,  Georgia, Guiana Ffrengig, Guyana, Gwlad Thai, Indonesia, Lesotho, Malawi, Mayotte, Mecsico, Mongolia, Montenegro, Mozambique, Myanmar, Namibia, Nepal, Paraguay, Réunion, Rwanda, Seychelles, Sierra Leone, Somalia, Sudan, Suriname, Tanzania, Trinidad a Tobago, Tunisia, Uganda, Uruguay, Ynysoedd Philippines, Zambia, Zimbabwe 

**Rhestr o raglenni brechu ychwanegol sy’n cael eu cydnabod - Yr Aifft, Albania, Bahamas, Bangladesh, Bosnia a Herzegovina, Brasil, Columbia, Chile, De Affrica, Fietnam, Ghana, Georgia, Gogledd Macedonia, Grenada, Gwlad Thai, Gwlad yr Iorddonen, Hong Kong, India, Indonesia, Jamaica, Kenya, Kosovo, Maldives, Moldofa, Montenegro, Morocco, Namibia, Nigeria, Oman, Pacistan, Serbia, St Kitts a’r Grenadines, Twrci, Wcrain, Ynysoedd Philippines, a’r Cenhedloedd Unedig.