Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd ag eraill, wedi pwyso yn gyson ar Lywodraeth y DU i gymryd camau mwy rhagofalus o ran teithio rhyngwladol er mwyn atal ailgyflwyno coronafeirws i’r DU, yn enwedig amrywiolion newydd ac amrywiolion sy’n dod i’r amlwg, efallai na fydd y brechlynnau’n effeithiol yn eu herbyn.
Yr wythnos diwethaf, penderfynodd Llywodraeth y DU i uno’r rhestrau teithio gwyrdd ac oren a dileu’r gofyniad am brawf cyn ymadael. Byddwn yn gweithredu yn yr un modd â gwledydd eraill y DU ac rydym yn bwriadu gwneud y newidiadau hyn erbyn 4 Hydref. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn hefyd yn ystyried i ba wledydd y byddwn yn ymestyn y system adnabod tystysgrifau brechu.
Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn bryderus am benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â’i gwneud yn ofynnol i deithwyr sy’n dychwelyd wneud profion PCR ar ddiwrnod dau oherwydd bod gennym bryderon gwirioneddol ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno amrywiolyn newydd, mwy ymosodol o Covid o rannau eraill o'r byd, a allai fynd heibio’r amddiffyniad sydd gennym ar hyn o bryd o ganlyniad i'n rhaglen frechu
Mae cynnal prawf PCR ar ddiwrnod dau, a dadansoddi dilyniant genom yr holl ganlyniadau positif, yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n gwyliadwriaeth ar gyfer coronafeirws, a dylid ei gadw. Mae dadansoddi’r dilyniant genom yn galluogi i wyddonwyr medrus adnabod amrywiolion newydd o’r coronafeirws. Heb brawf PCR, mae’n anodd iawn gweld sut y bydd Llywodraeth y DU yn gallu gwneud hynny.
Mae rhoi gwahanol ofynion profi ar waith ym mhedair gwlad y DU yn arwain at heriau cyfathrebu a gorfodi, yn enwedig gan fod cymaint o deithwyr o Gymru’n dychwelyd i’r DU drwy borthladd neu faes awyr yn Lloegr.
Yr ateb mewn gwirionedd yw cadw’r profion PCR diwrnod dau ar draws y Deyrnas Unedig. Byddwn yn dal i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ailgyflwyno profion ar gyfer y DU gyfan, ac yn parhau i archwilio’r dystiolaeth am drefn brofi i Gymru yn unig.