Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae ein gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi bod yn effeithiol iawn o ran lleihau trosglwyddiad y feirws. Mae hunanynysu yn sgil symptomau neu ganlyniad prawf positif yn parhau i fod yn ddull pwerus o helpu i dorri’r cadwyni trosglwyddo ac atal y feirws rhag lledaenu.
Wrth ymateb i’r pandemig, rydym wedi ceisio cydbwyso niwed yn sgil Covid â mathau eraill o niwed. Yn sgil ein rhaglen frechu lwyddiannus a’r dystiolaeth bod y brechlyn yn gwanhau’r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaeth oherwydd Covid-19, rydym wedi ystyried a yw’r dull gweithredu presennol o ran hunanynysu yn briodol ac yn gymesur o hyd.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, pan adolygwyd y rheoliadau coronafeirws ddiwethaf ar 14 Gorffennaf, y byddem yn dileu’r gofyniad ar gyfer pobl sydd wedi’u brechu llawn - a phan fo 14 diwrnod wedi mynd heibio – i hunanynysu os ydynt yn gyswllt agos ag achos positif.
Bydd y newid hwn yn dod i rym ar 7 Awst. Ar ôl trafodaethau â rhanddeiliaid, gallaf hefyd gadarnhau y byddwn yn dileu’r gofyniad i bobl ifanc o dan 18 oed hunanynysu os ydynt yn gyswllt ag achos positif.
Dylai unrhyw un sydd â symptomau hunanynysu ac archebu prawf, a rhaid i unrhyw un sy’n cael canlyniad positif barhau i hunanynysu am 10 diwrnod.
Bydd swyddogion olrhain cysylltiadau, yn y dyfodol, yn darparu gwasanaeth ‘rhybuddio a hysbysu’ i unigolion sydd wedi’u brechu’n llawn os ydynt wedi’u nodi fel cysylltiadau agos i achos positif. Bydd hyn yn cynnwys atgyfnerthu negeseuon allweddol ynglŷn â’r risg i eraill yn sgil Covid-19 a’r hyn y gellir ei wneud i leihau’r risg honno. Er enghraifft, drwy barhau i fod yn effro i symptomau newydd, gwneud cais am brawf hyd yn oed ar gyfer symptomau ysgafn ac osgoi dod i gysylltiad yn y tymor byr â ffrindiau ac aelodau o’r teulu sy’n agored i niwed (megis perthnasau hŷn neu’r rhai sydd â risg uwch o haint Covid-19 difrifol).
Rydym yn parhau i argymell bod pawb sy’n cael ei nodi fel cyswllt agos, boed wedi eu brechu neu beidio, yn cymryd prawf PCR ar yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod ar ôl iddynt ddod i gysylltiad ag achos positif.
Rydym wedi rhoi ystyriaeth arbennig i staff iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda phobl agored i niwed. Bydd asesiad risg yn pennu a yw’n briodol iddynt ddychwelyd i’w gwaith, ac a oes angen mesurau ychwanegol, megis profion PCR a phrofion llif unffordd dyddiol.
Mae Ap Covid-19 y GIG yn parhau i gefnogi ein system Profi, Olrhain, Diogelu. Bydd yn cael ei ddiweddaru gyda gwybodaeth i ddefnyddwyr er mwyn rhoi gwybod iddynt am y newidiadau yng Nghymru.
Mae’r elfen Diogelu o wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn cael ei hehangu i ddarparu cymorth hirdymor. Mae hyn yn cynnwys gwneud y cymorth ariannol yn fwy hael a hygyrch i’r rhai sydd angen parhau i hunanynysu, a darparu cymorth wedi’i dargedu i gael gwared â phryderon ynghylch arian, tlodi tanwydd a mynediad at fwyd.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.