Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn Symud Cymru Ymlaen, amlinellwyd ein bwriad i greu'r amodau y mae eu hangen ar fusnesau a chymunedau i ffynnu. Mae ardrethi annomestig yn codi mwy na £1bn bob blwyddyn yng Nghymru ac yn helpu i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl a chymunedau'n dibynnu arnynt.

Rydym yn credu y dylai ardrethi annomestig gael eu casglu mor effeithiol a theg â phosibl.  

Mae'r mwyafrif helaeth o dalwyr ardrethi'n talu'r hyn sy'n ddyledus yn llawn ac yn brydlon - dyrnaid yn unig sy'n osgoi talu eu cyfran deg. Mae osgoi talu ardrethi annomestig yn cael effaith andwyol ar wasanaethau lleol, y gymuned ehangach a thalwyr ardrethi eraill. Yn ôl y dystiolaeth mae rhwng £10m a £20m o refeniw ardrethi annomestig yn cael ei golli bob blwyddyn o ganlyniad i osgoi talu ardrethi annomestig - sef refeniw a allai wneud cyfraniad gwerthfawr at wasanaethau cyhoeddus. Mae rhai dulliau osgoi'n soffistigedig iawn eu natur.  

Ymgynghorwyd ar nifer o syniadau i helpu i fynd i'r afael ag osgoi talu ardrethi annomestig, yn gynharach eleni. Daeth ymatebion i law oddi wrth ystod o dalwyr ardrethi, cynrychiolwyr o fyd diwydiant a'r awdurdodau lleol ac mae'r crynodeb yn cael ei gyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.

https://beta.llyw.cymru/mynd-ir-afael-ag-achosion-o-osgoi-ardrethi-annomestig-yng-nghymru

Heddiw rwyf yn nodi'r ffordd ymlaen, a fydd yn lleihau'r cyfleoedd ar gyfer osgoi ardrethi ac yn helpu sefydliadau i ymchwilio i achosion a'u herio'n fwy effeithiol.  Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:

• Ymchwilio i rwymedigaeth gyfreithiol newydd ar dalwyr ardrethi i hysbysu eu hawdurdod lleol am newid mewn amgylchiadau a fyddai'n effeithio ar eu biliau ardrethi;

• Pŵer cyfreithiol newydd i'r awdurdodau lleol ofyn am wybodaeth gan dalwyr ardrethi a thrydydd partïon i helpu awdurdodau wrth gyflawni eu swyddogaeth bilio a chasglu;

• Pŵer cyfreithiol newydd i'r awdurdodau lleol gael mynediad i eiddo annomestig (hereditamentau) a'u harolygu i gadarnhau gwybodaeth sy'n berthnasol i'r swyddogaeth filio;

• Newidiadau i'r trefniadau ar gyfer rhyddhad eiddo gwag. Bydd hyn yn cynnwys ymestyn y cyfnod meddiannaeth dros dro, sy'n arwain at gylchoedd cyson o ryddhad, o 42 diwrnod i chwe mis. Bydd hefyd yn dileu cyfradd sero ar eiddo gwag er mwyn iddi ymddangos, y tro nesaf iddynt gael eu defnyddio, fod modd eu defnyddio at ddibenion elusennol. Byddwn yn rhoi disgresiwn lleol i'r awdurdodau lleol roi cyfradd sero mewn achosion dilys lle y mae angen i elusen fod yn berchen ar adeilad gwag neu brydlesu adeilad gwag a pheidio â'i ddefnyddio.

• Gweithio gyda'r awdurdodau lleol i gyhoeddi rhestr o dalwyr ardrethi sy'n cael rhyddhad ardrethi, ar yr amod bod y rhestr yn cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data;

• Gweithio gyda'r awdurdodau lleol i ddatblygu dull gweithredu rhannu enillion  – bydd hyn yn galluogi'r awdurdodau lleol hynny sy'n gwneud ymdrechion i sicrhau cydymffurfiad i gadw canran o'r refeniw ychwanegol a gesglir, yn hytrach na'i dalu i'r pwll canolog i'w ailddosbarthu.

Caiff rhai o'r mesurau hyn eu cynnwys ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2019 a chaiff rhai eu darparu trwy ddiwygiadau i Reoliadau Ardrethi Annomestig (Eiddo heb ei Feddiannu) 2008. Deuant i rym o 1 Ebrill 2021, i gyd-fynd â gweithredu'r rhestr ardrethu a'r ymarfer ailbrisio nesaf. Mae hyn yn rhoi amser i Lywodraeth Cymru godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau ymhlith talwyr ardrethi ac i gyrff eraill paratoi ar gyfer y newidiadau.  

Rwyf wedi ystyried y mater o honni statws elusennol yn ffug at ddibenion osgoi ardrethi a rhwymedigaethau eraill. Nid yw'r talwyr ardrethi hyn yn elusennau dilys ond maent yn ceisio defnyddio statws elusennol i osgoi talu ardrethi. Rwyf wedi gwrando ar bryderon y sector ac ar hyn o bryd, nid wyf yn cynnig gwneud unrhyw newidiadau i'r trefniadau ar gyfer rhyddhad elusennol gorfodol a disgresiynol yn y cyd-destun hwn. Er hynny, byddaf yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r Comisiwn Elusennau i ymchwilio i beth y gellir ei wneud i atal statws elusennol rhag cael ei gamddefnyddio.  

Dros amserlen hwy, byddwn yn datblygu cynigion ymhellach ar gyfer Rheol Gyffredinol ar Atal Osgoi (GAAR) ar gyfer ardrethi annomestig, a fydd yn gofyn am ddarpariaeth ddeddfwriaethol ar wahân - mae darpariaeth debyg yn bodoli ar gyfer y dreth Trafodiadau Tir yn Neddf Treth Trafodiadau Tir  a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Bydd hyn yn sicrhau y gall yr awdurdodau perthnasol herio ymddygiad wrth i ddulliau osgoi addasu i amgylchiadau yn y dyfodol.  

O ran materion y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, megis camddefnyddio'r gyfraith ar ansolfedd, masnachu "phoenix”, cofrestru busnesau a statws elusennol, byddaf yn cydweithio'n agos â'r asiantaethau a'r adrannau perthnasol yn y DU i sicrhau gwelliannau.

Mae'r datganiad hwn yn dangos fy ymrwymiad i gefnogi'r mwyafrif helaeth o fusnesau yng Nghymru sy'n ymddwyn â gonestrwydd ac uniondeb wrth drefnu eu materion trethi lleol. Nid yw'n iawn o gwbl fod ymdrechion y mwyafrif helaeth i lynu wrth y rheolau a thalu'r hyn sy'n ddyledus ganddynt yn cael eu tanseilio gan leiafrif bach sy'n benderfynol o gamddefnyddio'r system.