Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi 

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'n bleser gennyf lansio 'Mynd i'r afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu' heddiw yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Fframwaith rhwng Gorffennaf a Hydref 2013, ble y cafwyd 120 o ymatebion ac y cysylltwyd â dros 400 o bobl ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiadau ymgynghori mawr a grwpiau ffocws.  Mae hyn wedi helpu inni sicrhau ein bod wedi gwrando ar amrywiol bobl a sefydliadau ledled Cymru, gyda chynrychiolaeth gref ar draws yr holl nodweddion a ddiogelir y mae'r Fframwaith yn eu cwmpasu.  

Mae'r rhain yn cynnwys hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd ac oedran. Rydym wedi ychwanegu oedran fel nodwedd warchodedig ychwanegol, gan bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad wedi tynnu sylw amlwg at sut y mae pobl hŷn a plant a phobl ifanc yn dioddef, ac yn cael eu targedu, am droseddau casineb.  Mae'r Fframwaith hefyd yn cynnwys mynd i'r afael â chasineb seibr a'r dde eithafol, a allai gael effaith niweidiol sylweddol ar ddioddefwyr ledled Cymru.  

Mae'r Fframwaith yn rhan o'r broses o gyflenwi Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru, ac mae'n cyflawni ymrwymiad o fewn y Rhaglen Lywodraethu.  Mae'n canolbwyntio ar dair amcan strategol i gefnogi'r broses o gyflenwi - atal: i fynd i'r afael â rhagfarn a stereoteipio greddfol; cefnogi dioddefwyr i sicrhau bod mwy ohonynt yn rhoi gwybod am achosion casineb, ac i roi cyngor; a gwella yr ymateb aml-asiantaethol i sicrhau gweithio mewn partneriaeth yn well, ac i fynd i'r afael â'r sawl sy'n cyflawni'r troseddau.  

Mae'r Fframwaith yn seiliedig ar weithredu, a chaiff ei gynnal gan gynllun cyflenwi  trawsbynciol ar draws nifer o feysydd polisi ac arfer Llywodraeth Cymru.  Caiff y cynllun cyflenwi hwn ei ddiweddaru pob blwyddyn i sicrhau ei fod yn cael ei gyflenwi'n dryloyw.  Caiff hyn ei fonitro gan Grŵp Cynghori Annibynnol, a byddaf yn llunio'r Grŵp yn ddiweddarach eleni.  Bydd hyn yn cynnwys nifer o sefydliadau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector er mwyn rhoi cyngor a chanllawiau imi ar weithredu hyn.  

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu i ddarparu'r Fframwaith o'r cychwyn cyntaf, drwy'r Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant.  Byddaf yn lansio Canolfan Cofnodi Troseddau Casineb newydd yn y  lansiad, fydd yn cael ei ddarparu gan Cymorth i Ddioddefwyr.  Bydd hyn yn ffordd hyblyg i ddioddefwyr roi gwybod am unrhyw achosion drwy linell gymorth newydd a chyfleuster ar-lein i gefnogi hyn.  Bydd y system hon yn cynnwys cymorth gwell wedi'i integreiddio ar gyfer dioddefwyr ledled Cymru, a bydd hefyd yn ariannu gweithwyr achosion a nifer o wirfoddolwyr fydd yn rhoi cymorth cyfaill i ddioddefwyr troseddau casineb ledled Cymru.  

Bydd y lansiad yn gyfle hefyd i ddangos rhai prosiectau arloesol pellach ledled Cymru sydd hefyd wedi'u hariannu drwy'r Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant.  Er enghraifft, mae'r Fframwaith yn tynnu sylw at y ffaith nad yw troseddau casineb,  yn hanesyddol, yn cael eu cofnodi gan gymunedau Sipsiwn a Theithwyr, nac ychwaith gan Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid.  Rydym yn ariannu cymdeithas Achub y Plant  a Chyngor Ffoaduriaid Cymru i weithio â chymunedau i gael mwy o bobl i roi gwybod am droseddau casineb, ac i wneud pobl yn fwy hyderus i roi gwybod.  Rydym hefyd yn ariannu Cwmni Theatr Taking Flight, a fydd yn codi ymwybyddiaeth o fynd i'r afael â throseddau casineb yn gysylltiedig ag anabledd yn ein hysgolion a'n grwpiau ieuenctid; a bydd Stonewall Cymru a Youth Cymru yn chwarae rôl bwysig wrth fynd i'r afael â throseddau casineb yn seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Mae trafodaeth wedi'i chyflwyno ar Fynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu, ar 20 Mai 2014, ac rwy'n croesawu'r cyfle i glywed barn Aelodau'r Cynulliad.  Roeddwn yn falch iawn o gael cefnogaeth gref gan yr Aelodau yn y gorffennol ar yr ymrwymiad pwysig hwn.  Rwy'n hynod falch o waith y Llywodraeth hon ar hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch, a bydd gwaith y Fframwaith yn sicrhau dull o weithio ac ymateb wedi'u cydlynu, i sicrhau ein bod yn gallu helpu dioddefwyr troseddau neu ddigwyddiadau casineb yng Nghymru.